Ysgol yn lansio taith i’r gofod

Golygfa o’r Ddaear yn dangos cymylau dros ddŵr gafodd ei thynnu yn ystod taith Apollo 11. Credit: NASA

Golygfa o’r Ddaear yn dangos cymylau dros ddŵr gafodd ei thynnu yn ystod taith Apollo 11. Credit: NASA

10 Mehefin 2014

Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn paratoi i lansio taith i’r gofod gyda chymorth arbenigwr mewn roboteg o Brifysgol Aberystwyth.

 bod y tywydd yn caniatáu, bydd llong ofod yn cael ei lansio o gae chwarae'r Ysgol rhwng 9 a 10 o’r gloch fore Iau 12 Mehefin.

Wrth baratoi ar gyfer y daith, mae’r disgyblion wedi adeiladu roced ar gyfer cynnwys y capsiwl gofod, a chreu pobl fach o glai a fydd yn teithio ynddi.

Maent hefyd wedi bod yn dysgu am y gofod, y tywydd ac am lansiadau tebyg eraill, ac wedi bod yn gweithio gyda’r animeiddiwr Tim Allen i wneud ffilmiau byr animeiddiedig o'r gofodwyr dewr yn dringo i mewn i'r capsiwl gan gymryd gyda hwy negeseuon o’n planed ni, y Ddaear.

Yn ymuno â hwy ar fwrdd y llong ofod fydd cynrychiolydd Eco-Sgolion yn cario baner werdd Eco-Sgolion. Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn Eco-Ysgol Platinwm ac mae'r prosiect yn cael ei ffilmio gan Eco-Sgolion Cymru ar gyfer fideo a fydd yn cael eu dangos yn y Gynhadledd Ryngwladol Gweithredwyr Eco-Ysgolion yng Nghaerdydd ym mis Rhagfyr 2014 i nodi 20 mlynedd o Eco-Sgolion yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Cyn y lansiad, dywedodd Mr Clive Williams, Prifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth; “Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn falch o’r cyfle i fod yn leoliad i’r digwyddiad cyffrous yma. Mae’r disgyblion wedi bod yn astudio gwaith am y gofod fel rhan o’r cwricwlwm gwyddoniaeth ac wedi cael llawer o brofiadau amrywiol wrth baratoi’r roced fel rhan o’u gwaith celf. Maent wedi creu logo mewn dylunio a thechnoleg, astudio cyfeiriad y gwynt mewn daearyddiaeth ac ymchwilio i ddigwyddiadau tebyg drwy gyfrwng y we.

“Un o hoff straeon y disgyblion yw stori Y Bobl Fach Wyrdd ac maent yn edrych ymlaen at eu gweld yn gadael yr ysgol ac yn anelu tua’r gofod, gobeithio y down nhw nol yn ddiogel!

“Hoffai’r ysgol ddiolch i rieni’r ysgol am eu brwdfrydedd ac i’r Brifysgol am bob cefnogaeth  gyda’r digwyddiad arbennig hwn”, ychwanegodd.

Y Daith

Balŵn tywydd llawn heliwm fydd yn cario’r llong ofod ac mae disgwyl i'r daith gyrraedd uchder o tua 30,000 metr cyn disgyn yn ôl i'r ddaear.

O dan y falŵn bydd capsiwl polystyrene sy’n cynnwys dau gamera, dau olrheiniwr GPS a chyfrifiadur cartref bychan sy'n mesur uchder, tymheredd a sut mae’r falŵn yn symud. Bydd yr holl wybodaeth yma yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r ddaear drwy gyswllt diwifr.

Bydd y camerâu yn defnyddio technoleg treigl amser i ddarparu rhai miloedd o luniau o’r ddaear wrth i’r falŵn ddringo hyd at ymyl atmosffer y ddaear.

Mi fydd y lluniau yn debyg iawn i’r rhai a dynnwyd gan ofodwyr yn ystod y teithiau Apollo cyntaf, ac mae disgwyl iddynt ddangos pa mor denau yw atmosffer y ddaear mewn gwirionedd.

Datblygwyd y dechnoleg ar gyfer y daith gan Dr Mark Neal, cydlynydd Grŵp Ymchwil Roboteg Ddeallus Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth, a rhiant yn yr ysgol.

Bydd Mark yn trosglwyddo data wrth i’r falŵn esgyn i tua 10,000 metr. Unwaith y bydd y tu hwnt i gyrraedd y lloerennau, mae Mark yn disgwyl colli cysylltiad â'r falŵn wrth iddi esgyn hyd at 30,000 metr lle bydd hi’n byrstio cyn disgyn yn ôl i'r ddaear. Mae'n disgwyl i'r daith gyfan gymryd rhwng 3 a 5 awr.

Unwaith  bydd yn ôl ar y ddaear, bydd tîm wrth law i ddod o hyd i'r capsiwl a'i ddychwelyd at Mark er mwyn lawrlwytho’r lluniau a holl ddata’r daith.

A bod popeth yn mynd yn iawn a’r capsiwl wedi glanio, dylai'r tîm allu dod o hyd iddo drwy ddefnyddio technoleg GPS. Yn seiliedig ar ragolygon y tywydd ar gyfer dydd Iau, mae Mark yn rhagweld y bydd hynny rhywle yn yng nghanolbarth Cymru!

Datblygwyd y daith fentrys a pheryglus hon gan ddisgyblion, staff a rhieni Ysgol Gymraeg Aberystwyth gyda chefnogaeth  Eco-Sgolion Cymru, yr animeiddiwr Tim Allen, Ffotograffiaeth Keith Morris a Ultracomida.

 

AU25014