Sioeau Amaethyddol: Beth yw'r effaith?

Y Myfyriwr Ôl-raddedig Greg Thomas, a fydd yn lansio ei astudiaeth “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol Gymregi eleni

Y Myfyriwr Ôl-raddedig Greg Thomas, a fydd yn lansio ei astudiaeth “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn y Sioe Amaethyddol Frenhinol Gymregi eleni

09 Gorffennaf 2014

Bydd Greg Thomas, ymchwilydd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cynnal astudiaeth ymchwil i Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni er mwyn gweld yr effaith a gaiff ar gefn gwlad y Gymru gyfoes.

Bydd prosiect ymchwil PhD cyffrous “Sioeau Amaethyddol: Gyrru ac Arddangos Newid yng Nghefn Gwlad” yn cael ei lansio yn Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru 2014. Dynoda hyn ddechrau prosiect ymchwil dwy flynedd i mewn i rôl Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn y Gymru gyfoes.

Bydd Greg yn ymchwilio’n fanwl i'r Sioe ac mae’n awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â diddordeb yn Sioe Frenhinol Cymru, neu sydd â hanes diddorol i'w rannu.

Cyn dechrau ar yr ymchwil, dywedodd Greg; “Mae sioeau amaethyddol yn rhan hanfodol o unrhyw gymuned wledig a gellir dadlau mai Sioe Frenhinol Cymru yw'r digwyddiad mwyaf mawreddog o'i fath yn Ewrop.  Er i ddaearyddwyr alw am astudiaeth o agweddau cymdeithasol a diwylliannol sioeau amaethyddol, nid chafodd hyn erioed ei wneud o'r blaen. Fy ngobaith yw deall sut mae Sioe Frenhinol Cymru wedi newid, ei rôl yng Nghymru heddiw a pham bod ei llwyddiant mawr yn parhau.”

Drwy gydol Sioe Frenhinol Cymru 2014 (21-24 Gorffennaf) bydd Greg ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn y Pafiliwn Addysg (ger y prif gylch) ac yn croesawu ymwelwyr o bob math o gefndiroedd i ddod i rannu eu straeon a’u profiadau o’r Sioe.

Mae Greg yn cynnal yr arolwg barn ymwelwyr mewn cydweithrediad â Chymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ac mae’n gwahodd pobl i ddod i ymweld â'r stondin i gwblhau cerdyn post a chael eu cynnes mewn raffl am ddim, a chyfle i ennill tocynnau i’r Sioe y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Greg, "Byddai’n wych gweld cymaint o bobl â phosibl yn ymweld â'r stondin i rannu atgofion, cwblhau’r arolwg ymwelwyr neu i fynegi diddordeb yn fy ngwaith. Mae gweithio’n agos gyda'r Gymdeithas ar y prosiect yn gyffrous, ac rwy’n gobeithio y bydd yr hyn gaiff ei amlygu gan yr ymchwil o fudd i mi ac i’r Gymdeithas, ac yn gymorth i’r Gymdeithas ddatblygu yn y dyfodol”.

Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn yn sefydlu’r manteision sydd i ardaloedd gwledig yn sgìl sioeau amaethyddol, eu rôl ehangach mewn newid cefn gwlad, y ffordd y mae sioeau amaethyddol yn dod a’r dref a’r wlad at ei gilydd, a’u rôl o ran hwyluso cysylltiadau rhwng ffermwyr a Llywodraeth Cymru.

“Rwy'n falch o gefnogi'r fenter hon,” meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. "Bydd gan lawer o bobl farn am y rhesymau dros lwyddiant mawr y sioe, ond wrth i ni edrych i barhau i wella ein digwyddiadau, mae'n ofynnol i ni ddeall y ffeithiau sy’n sail i’r safbwyntiau hyn. Bydd ymchwil Greg yn cynorthwyo i lunio a dylanwadu ar y Sioe gan barhau i ddatblygu a gwella nid yn unig ein digwyddiadau, ond ein rôl ehangach mewn cymdeithas.”

Os hoffech wybod mwy am y cynllun neu gysylltu â Greg cyn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gallwch gael manylion llawn am yr ymchwil a manylion cyswllt ar y wefan www.showingagriculture.co.uk. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys blog Greg a fydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd drwy gydol yr ymchwil.

Ymchwilydd ôl-raddedig yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth, un o'r 100 prif adrannau daearyddiaeth yn y byd, yw Greg Thomas. Cyllidwyd ei ymchwil gan Gynllun Datblygu Doethurol Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear,  Prifysgol Aberystwyth. Mae o gefndir amaethyddol ac wedi ei fagu ger Llanfair-ym-Muallt ac mae wedi bod yn ymwelydd cyson â Sioe Frenhinol Cymru a sioeau amaethyddol eraill ledled y DG trwy gydol ei oes.

 

AU27914