Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch

01 Gorffennaf 2014

Dyfarnu statws Uwch Gymrawd gan yr Academi Addysg Uwch i ddarlithwraig o IBERS, Dr Debbie Nash.

Myfyriwr Cyflogedig y Flwyddyn

01 Gorffennaf 2014

Y myfyrwyr Scott Roe a Barbara Karp yn cipio gwobrau Myfyrwyr Cyflogedig y Flwyddyn 2014. 

Cymunrodd yn cyllido ysgoloriaethau ymchwil PhD yn IBERS

02 Gorffennaf 2014

Dyfarnu Ysgoloriaeth Owen Price i Ilse Skujina er mwyn astudio genomau adar a'u cysylltiad â hirhoedledd, a Rhys Jones a fydd yn astudio llyngyr y rwmen.

Ymweld â Tsieina

07 Gorffennaf 2014

Myfyrwyr o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes yn treulio pythefnos yn astudio ym Mhrifysgol Cyllid ac Economeg  y De-orllewin, Chendu, Tsieina.

Google yn noddi cynhadledd ar sensoriaeth y rhyngrwyd

08 Gorffennaf 2014

Cynrychiolwyr o Google, Microsoft, y Comisiwn Ewropeaidd ac UNESCO ymhlith y cynadleddwyr a fydd yn y gynhadledd yn Aberystwyth ar 10-11 Medi 2014.

Sioeau Amaethyddol: Beth yw'r effaith?

09 Gorffennaf 2014

Lansio ymchwil newydd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru i rôl sioeau amaethyddol yng Nghymru heddiw.

Urddo Cymrodyr yn ystod Graddio

11 Gorffennaf 2014

Bydd un ar ddeg o Gymrodyr yn cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau rhwng 14 ac 18 Gorffennaf.

Urddo D Geraint Lewis yn Gymrawd

14 Gorffennaf 2014

Urddo’r awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg gyda Chyngor Sir Ceredigion, D Geraint Lewis, yn Gymrawd y Brifysgol.

Urddo ffisegydd atmosfferig blaenllaw

15 Gorffennaf 2014

Urddwyd Yr Athro John Harries, arweinydd y tîm a ddaeth o hyd i'r dystiolaeth arsylwol gyntaf bod effaith tŷ gwydr y Ddaear wedi cynyddu rhwng 1970 a 1997 yn Gymrawd.

O labrwr i radd mewn astroffiseg

15 Gorffennaf 2014

Ian Gimbeth o Church Stretton, a fu'n gweini byrddau, yn labrwr ac yn baentiwr ar ôl gadael yr ysgol yn 16eg oed, yn graddio mewn Astroffiseg.

Cymrawd Dysgu ac Addysgu

15 Gorffennaf 2014

Cydnabod cyfraniad eithriadol Nitin Naik i addysgu a dysgu ym maes Cyfrifiadureg.

Yr Athro Len Scott: Cymrawd Dysgu ac Addysgu

15 Gorffennaf 2014

Y Brifysgol yn cydnabod cyfraniad yr Athro Len Scott, awdurdod mewn astudiaethau cudd-wybodaeth a’r Rhyfel Oer, i ddysgu ac addysgu.

Urddo Jeremy Bowen yn Gymrawd

15 Gorffennaf 2014

Urddwyd y newyddiadurwr a chyflwynydd teledu uchel ei fri, Jeremy Bowen, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth heddiw, dydd Mawrth 15 Gorffennaf.

Urddo Syr Michael Moritz yn Gymrawd

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sydd yn wreiddiol o Gaerdydd, yn Gymrawd y Brifysgol.

Urddo Ed Thomas yn Gymrawd

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd y dramodydd, y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Ed Thomas yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Urddo Rhodri Meilir yn Gymrawd

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd yr actor sy’n raddedig of Brifysgol Aberystwyth, Rhodri Meilir, yn Gymrawd y Brifysgol.

Urddo’r comedïwr Rhod Gilbert yn Gymrawd

16 Gorffennaf 2014

Urddo'r comedïwr a’r cyflwynydd radio a theledu, Rhod Gilbert, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Urddo arbenigwr ar fridio reis yn Gymrawd

17 Gorffennaf 2014

Urddo Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, yn cael Gymrawd.

Urddo cyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yr Unol Daleithiau

18 Gorffennaf 2014

Urddo'r Athro Bonnie Buntain, cyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Urddo sefydlwr cwmni Bwydydd Castell Howell

18 Gorffennaf 2014

Urddo’r amaethwr a’r entrepreneur, Brian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell a ffurfiwyd yn y 1980au, yn Gymrawd.

Urddo Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi

18 Gorffennaf 2014

Urddwyd Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth, yn Gymrawd.

Dr David Whitworth yn cael ei wobrwyo gyda Gwobr Cymrodoriaeth

21 Gorffennaf 2014

Cymrodoriaeth Dysgu ac Addysgu.

Perfeddion gwartheg yn allweddol i greu gwrthfiotigau’r dyfodol

22 Gorffennaf 2014

Gwyddonwyr o IBERS wedi nodweddu dros 80 o elfennau  gwrthficrobaidd newydd o’r bacteria microsgopig a geir yn rwmenau gwartheg.

Pencampwriaethau Gwyddbwyll Prydain

22 Gorffennaf 2014

Prifysgol Aberystwyth yw’r lleoliad ar gyfer Pencampwriaethau Gwyddbwyll Prydain sy’n cael eu cynnal dros bythefnos ac yn dod i ben ar yr 2ail o Awst.

Un o raddedigion Aberystwyth yn cipio Ysgoloriaeth Llyndy Isaf

23 Gorffennaf 2014

Tudur Parry, sydd newydd raddio mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad, yw enillydd diweddaraf Ysgoloriaeth Ffermio Llyndy Isaf.

Teyrngedau i fyfyriwr o Maleisia

25 Gorffennaf 2014

Teyrngedau’n cael eu talu i Ern Nian Yaw, myfyriwr y Gyfraith a fu farw'r wythnos ddiwethaf mewn damwain car ym Maleisia.

Cymrodoriaeth Windsor Vivian Ezugha yn graddio

17 Gorffennaf 2014

Vivian Ezugha yn dechrau gwaith cyflogedig 50 wythnos diolch i Gymrodoriaeth Windsor.

Canllaw Clirio

25 Gorffennaf 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gwneud y broses Clirio mor hawdd â phosib eleni.

Sister Act yn agor yng Nghanolfan y Celfyddydau

25 Gorffennaf 2014

Comedi cerddorol Sister Act yn rhedeg am bum wythnos yng Nghanolfan y Celfyddydau.

Myfyrwyr talentog Unol Daleithiau yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

25 Gorffennaf 2014

Rhaglen ddiwylliannol ac academaidd Fulbright yn cael ei chynnal am y bedwaredd flwyddyn.

Iechyd! Peidiwch ag ysgwyd llaw!

28 Gorffennaf 2014

Ymchwil wedi ei gyhoeddi yn American Journal of Infection Control gan wyddonwyr IBERS yn dangos bod taro dyrnau yn lanach nag ysgwyd llaw.

Eisteddfod Genedlaethol 2014

28 Gorffennaf 2014

Digonedd o sgyrsiau, darlithoedd a gweithgareddau rhyngweithiol drwy’r wythnos.


 

Gwobr Efydd EcoCampus i'r Brifysgol

29 Gorffennaf 2014

Prifysgol Aberystwyth yn cael ei chydnabod am ei System Rheoli Amgylcheddol.

Technoleg UAV o gymorth mawr wrth gasglu data

30 Gorffennaf 2014

Gwyddonydd o Aberystwyth yn tynnu lluniau ar yr Ynys Las at ddibenion ymchwil.

Yr Athro Dave Barnes

31 Gorffennaf 2014

Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth sydyn Dr Dave Barnes, Athro Roboteg y Gofod a’r Planedau yn yr Adran Gyfrifiadureg, yn 58 mlwydd oed.

Gwladychwyr Cymreig Patagonia yn destun trafod yn yr Eisteddfod

31 Gorffennaf 2014

Y Brifysgol yn cynnal Darlith Flynyddol E.G. Bowen am y tro cyntaf eleni.


 

Geoff Constable

31 Gorffennaf 2014

Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth sydyn Geoff Constable, Swyddog Cyswllt prosiect CADARN.