O labrwr i radd mewn astroffiseg

Ian Gimbeth

Ian Gimbeth

15 Gorffennaf 2014

Graddiodd Ian Gimbeth o Church Stretton yn Swydd Amwythig o Brifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 14 Gorffennaf mewn Astroffiseg er iddo adael yr ysgol yn 16 oed.

Aeth Ian yn syth i weithio fel gweinydd ac yna fel labrwr am chwe blynedd, cyn dod yn beintiwr chwistrellu paent i gwmni gatiau awtomataidd ger Birmingham lle treuliodd y naw mlynedd nesaf o’i fywyd.

Pan wnaeth yr argyfwng economaidd daro yn 2008, cafodd Ian ei wneud yn ddi-waith ac fe'i gorfodwyd i symud yn ôl i gartref y teulu yn Church Stretton.

Yn benderfynol o newid cwrs ei fywyd, penderfynodd Ian ddilyn gyrfa mewn addysgu ac ar ôl cwblhau blwyddyn yng Ngholeg Telford yn astudio cwrs Mynediad i Wyddoniaeth, gwnaeth gais i astudio Astroffiseg yn Aberystwyth.

Eglurodd Ian sydd yn 38 mlwydd oed, "Roedd Astroffiseg o ddiddordeb mawr i mi ac felly ymchwilies i’r cyrsiau oedd ar gael. Er nad oedd gennyf fathemateg neu ffiseg Safon Uwch, cymerodd Aberystwyth siawns aranai oherwydd roeddent yn gallu gweld fy mod yn benderfynol o lwyddo ac eisiau dechrau bywyd newydd.

"Ni allaf ddweud ei fod wedi bod yn hawdd! Roedd y flwyddyn gyntaf yn arbennig o anodd i mi oherwydd bod lot i ddal i fyny arno, ond roedd e i gyd werth e."

Ar ben hynny, roedd Ian yn cymudo i Aberystwyth bob dydd o’r wythnos mewn car o Church Stretton i arbed ar gostau llety.

Ac yntau’n graddio gyda 2:1, ychwanegodd Ian, "Rydw i wedi aberthu tipyn er mwyn dilyn fy mreuddwyd, ond ni fyswn i’n newid dim oherwydd fy mod wedi cael cyfle mor wych. Roeddwn hefyd yn ffodus i gael Ysgoloriaeth Rhagoriaeth gan y Brifysgol dros y tair blynedd ac mae wedi helpu tuag at fy nghostau teithio."

Fe wnaeth Ian ariannu ei hun hefyd drwy ddefnyddio ei arian diswyddo a thrwy werthu ei gar, Westfield Seight 1999.

"Roedd yn anodd ffarwelio a’r Westfield gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn ceir, ond roedd angen rhywbeth mwy darbodus ar gyfer y daith i Aberystwyth ac felly dewisais Jaguar X-Type oedd yn 10 mlwydd oed", eglurodd.

"Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio cael fy nwylo ar Jaguar XK ond am flwyddyn arall o leiaf, bydd rhaid i mi aros gyda'r hen gar oherwydd fy mod yn aros ymlaen am flwyddyn arall yn Aber i wneud tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg.

"Gallwn i fod wedi astudio yn llawer agosach at adref, ond roeddwn i eisiau ad-dalu'r Brifysgol am gredu ynof ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd y cam terfynol hynny i ddod yn athro ffiseg ysgol uwchradd."

Dywedodd Dr Xing Li, darlithydd yn yr Adran Mathemateg a Ffiseg, "Mae penderfyniad Ian wedi talu ar ei ganfed ac rwy'n falch iawn gyda’r hyn y mae wedi ei gyflawnu.

"Ni allai fod wedi bod yn hawdd cymudo taith gron 160 milltir o ddydd i ddydd a dal i fyny gyda rhai o'r pynciau, ond mae wedi dod drwyddi a dymunaf yn dda iddo yn ei yrfa yn y dyfodol.”

AU27514