Urddo Ed Thomas yn Gymrawd

Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Ms Gwerfyl Pierce Jones, yn cyflwyno Ed Thomas yn Gymrawd y Brifysgol.

Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Ms Gwerfyl Pierce Jones, yn cyflwyno Ed Thomas yn Gymrawd y Brifysgol.

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd y dramodydd, y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Ed Thomas yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Mae Ed Thomas yn un o sylfaenwyr ac yn gyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory, ac wedi ysgrifennu, cyfarwyddo neu gynhyrchu dros 120 awr o ddramâu sydd wedi ennill gwobrau ym mhob genre.

Enillodd ei ddrama gyntaf, House of America (1988) nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae ei ddramâu eraill yn cynnwys East From the Gantry, Flowers of the Dead Red Sea, Song From a Forgotten City, Gas Station Angel aStone City Blue.

Mae hefyd wedi cynhyrchu nifer o raglenni drama ar gyfer S4C gan gynnwys Caerdydd, Y Pris, Pen Talar, Gwaith/Cartref, ac yn fwyaf diweddar Y Gwyll/Hinterland, cyfres dditectif a gynhyrchwyd yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer S4C a’r BBC ac a ddosbarthwyd yn rhyngwladol gan All3Media.

Cafodd llawer o’r gyfres Y Gwyll ei ffilmio yn y Brifysgol a’r cyffiniau, a bu Ed yn gyfrifol am drefnu nifer o leoliadau gwaith i fyfyrwyr y Brifysgol wrth i’r gyfres gael ei ffilmio.

Cyflwynwyd Ed Thomas gan Dr Kate Woodward o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf.

Cyflwyniad Dr Kate Woodward:

“Ed Thomas

Madam Is-Lywydd, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion, braint a phleser yw cyflwyno Ed Thomas yn gymrawd o Brifysgol Aberystwyth.

President / Vice President, Vice Chancellor, soon to be graduates and friends, it is my privilege and pleasure to present Ed Thomas as a Fellow of Aberystwyth University.

Mae Ed yn ddramodydd, yn gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd ac yn sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol y cwmni ffilm a theledu annibynnol Fiction Factory. Rydyn ni wrth ein bodd dy fod yma gyda ni heddiw, ac mae’n hyfryd cael croesawi dy deulu atom ni hefyd.

Yng Nghwmgïedd mae stori Ed Thomas yn cychwyn, yn y pentref bach hwnnw ger Ystradgynlais sy’n enwog am fod yn leoliad saethu i ffilm nodedig Humphrey Jennings, Silent Village. Yn fab i’r cigydd lleol Edward (a ymddangosodd yn Silent Village), a’i wraig Mair, fe wnaeth drama nodweddu ei fywyd yn ifanc iawn. Wrth chwarae gyda ffrind iddo ar ôl bod yn Ysgol Ynysgedwyn, syrthiodd o goeden ac i mewn i’r Afon Giedd. Yn ddifywyd a’i gorff wedi troi’n las, datganwyd yn ddiseremoni ei fod wedi marw. Rydym ni’n ffodus nad dyna oedd diwedd y stori, ac y gwnaeth un o ddramodwyr disgleiriaf Cymru oroesi’r ddrama gynnar honno.

Hailed as Wales’ greatest living dramatist, Ed is also a director and producer, and the founding member and creative director of the independent film and tv company Fiction Factory. He has often said that “to be Welsh in the twenty-first century you’ve got to have imagination”, and thankfully for Wales, Ed has imagination in spades. As a dramatist, House of America, the first production of his company Y Cwmni, exploded onto the stage in the Royal Court in 1988 and was an instant success. It won the Time out Award for Best New Play in London, was later adapted into a feature film. That film premiered at Sundance Festival and won numerous awards including 10 BAFTA Cymru awards. The plays that followed, including Flowers of the Dead Red Sea, East from the Gantry, Song From a Forgotten City and Gas Station Angel were part of an effort to write a new national narrative and create a ‘new mythology’ for Wales.  Ed’s work has tackled the question of Welsh national identity with the head-on force of rugby fullback, merging the familiar and the supernatural and blending it with the stereotypical and adding an enormous shot of unique imagination.

Er y gwreiddiwyd y dramâu hyn yng Nghymru, roedd iddynt adenydd, wrth iddynt deithio trwy’r Deyrnas Unedig i bellafion Ewrop, Awstralia a De America, a chael eu cyfieithu i ieithoedd dirifedi a’u pherfformio ar nifer o lwyfannau nodedig. Yn ystod y refferedwm ar ddatganoli, bu Ed yn lladmerydd cyson a beiddgar ar gyfer yr ymgyrch ‘Ie’ yn y refferendwm. I’r rheini ohonom sy’n ddigon ffodus i fwynhau arlwy Fiction Factory ar S4C gwelsom ymhlith eraill Caerdydd, y ddrama ôl-ddatganoledig cyntaf, yn cynnwys holl shenanigans y Senedd, daeth Y Pris â’r maffia i Sir Gar, dogfennodd Pen Talar hanner can mlynedd o hanes cenedlaetholdeb Cymreig, a bywydau gwaith a charwriaethau niferus athrawon un ysgol ddinesig a geir yn Gwaith Cartref.

But I do think, and indeed, very much hope, that Ed is the only individual to be presented as a fellow of this University who has been directly responsible for an increasing number of deaths in Aberystwyth and the surrounding area. For as co-creator of the detective series Y Gwyll / Hinterland, Ed and his dedicated team turned our beloved seaside town into a dark and quite horrific place, where our only saviour is the bobble hatted DCI Mathias.  Thanks to Ed, many of you graduating here today have been fortunate enough to have completed work placements on a series that has been sold to many countries throughout the world and is also playing on Netflix in the US.

Ed once said that ‘My job is to imagine a dramatic landscape, which may include the past and may not.  When I’m talking about Wales, I’m really talking about myself’ but Ed’s achievement is to make us feel as though he is talking on behalf of us all. In House of America after debating the merits of Harry Secombe and Elvis Presley as heroes, Sid asks Boyo ‘Where are our heroes?  Our kings? One answer mate, we haven’t got any’. Wales has certainly moved on since 1998, Ed Thomas too, and surely he is a hero and an inspiration to any young person hoping for a future in the creative industries in Wales.

Is-Lywydd, mae’n fraint ac yn bleser gennyf gyflwyno i chi Ed Thomas, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Mae Ed Thomas yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Rhodri Meilir, cyn fyfyriwr ac actor sydd newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a dderbyniodd gryn ganmoliaeth.
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29214