Urddo Rhodri Meilir yn Gymrawd

Rhodri Meilir yn derbyn ei gymrodoriaeth oddi wrth Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Ms Gwerfyl Pierce Jones.

Rhodri Meilir yn derbyn ei gymrodoriaeth oddi wrth Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Ms Gwerfyl Pierce Jones.

16 Gorffennaf 2014

Urddwyd yr actor sy’n raddedig of Brifysgol Aberystwyth, Rhodri Meilir, yn Gymrawd y Brifysgol heddiw ddydd Mercher 16 Gorffennaf.

Graddiodd Rhodri Meilir, o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2000 ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglennu teledu poblogaidd gan gynnwys chwarae rhan Alfie Butts yng nghyfres My Family y BBC,  Afterlife ar ITV a Hogfather Terry Pratchett ar Sky One.

Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau gan gynnwys The Baker, Y Syrcas gan Kevin Allen yn ogystal â phennod arbennig y Nadolig o Doctor Who, The Runaway Bride.

Yn ddiweddarach eleni, bydd yn ymddangos ar y sgrin fawr yn ffilm newydd Pathé Films, Pride.

Mae’n adnabyddus ar y teledu yng Nghymru am ei rolau yn Y Pris, Caerdydd, Teulu, Tipyn o Stad ac fel Rapsgaliwn.

Cafodd ei enwebu yng ngwobrau BAFTA Cymru yng nghategori’r actor gorau yn 2013 am ei rôl fel Trefor yn Gwlad yr Astra Gwyn. Mae Rhodri newydd ymddangos yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Mametz, a gafodd gryn ganmoliaeth.

Cyflwynwyd Rhodri Meilir gan Dr Jamie Medhurst, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Mercher 16 Gorffennaf.

Cyflwyniad Dr Jamie Medhurst

“Madam

Is-Lywydd, Is-Ganghellor, Cyfeillion. Mae’n bleser o’r mwyaf cael cyflwyno'r actor, a’r cyn-fyfyriwr Drama yn Aberystwyth, Rhodri Meilir, i’w urddo yn Gymrawd yn y Brifysgol hon.

Madam Vice-President, Vice-Chancellor, Friends. It's a great pleasure to present the actor and former Aberystwyth Drama student, Rhodri Meilir, as a Fellow of this University.

Rhodri and I have one thing in common - apart, that is, from our striking good looks. We are both valleys boys, both of us having been born in Pontypool in south Wales, albeit 11years apart. I remained a south Walian – a ‘hwntw’ but Rhodri became a north Walian – a ‘gog’….

Ar ôl cyfnod o fyw mewn gwahanol ardaloedd yn sgîl y ffaith mai plismon oedd ei dad, fe ymgartrefodd y teulu yn Yr Wyddgrug ac yno aeth Rhodri i'r Ysgol Uwchradd, Ysgol Maes Garmon. Wedi gyrfa llwyddiannus yn yr ysgol honno, fe enillodd Rhodri ysgoloriaeth i astudio Drama yma yn Aberystwyth.

After completing his studies successfully at Ysgol Maes Garmon in Mold, Rhodri won a scholarship to study Drama here at Aberystwyth in 1997. The Department was then located in Laura Place near Old College and on the Buarth, a far cry from the comforts of the Parry-Williams Building on campus here. As it happens, and with thanks to our wonderful University Records Manager, I have Rhodri’s student file with me today. I tell you what, Rhodri, how about a couple of workshops with our students in exchange for my keeping the contents of this file to myself…?!

Gadawodd Rhodri yn y flwyddyn 2000 ac mae’n amlwg fod yr Adran a’r Brifysgol wedi creu argraff arno. Mewn erthygl yn y Western Mail  yn 2009, soniodd Rhodri am yr adran fel hyn: ‘I had an amazing set of lecturers there who gave me a fantastic grounding in drama. It was brilliant.’ Ac mae nifer ohonynt ar y llwyfan y tu ôl i mi heddiw.

And so started a flourishing career in theatre, film and television. Allow me to pick out some of Rhodri’s career highlights: Christmas Day 2006 was a particularly busy time for Rhodri, not only did he appear on the Dr Who Christmas Special, The Runaway Bride but he also appeared in the Christmas special of the long-running BBC One sitcom, My Family as Alfie and on the Welsh-language children’s strand Cyw (as Rapsgaliwn).

Mae wedi dysgu sut i farchogaeth ceffyl heb gyfrwy ar gyfer ei ran fel Bilious yn ffilm Terry Pratchett Hogfather ar Sky One, wedi dysgu sut i wneud y ‘moon walk’ ar gyfer ei gymeriad, Alfie, yn My Family ac wedi smwddio yn hanner noeth yng nghanol canolfan sglefrio iâ ar gyfer hysbyseb yng ngogledd America.

Yn y Gymraeg, mae Rhodri wedi chwarae rhannau amlwg yn nramau poblogaidd S4C megis Caerdydd, Pen Talar, Y Pris a Teulu.

He received a Best Actor BAFTA Cymru nomination in 2013 for his role as Trefor in S4C’s Gwlad yr Astra Gwyn and has recently appeared in National Theatre Wales’s critically-acclaimed production of Mametz. Later this year, he will play the part of Mr Ogmore in Dylan Thomas’s Under Milk Wood and will appear on cinema screens in Pathé Films’ new film Pride, starring Bill Nighy and Imelda Staunton. And if that wasn’t enough, Rhodri is also the Ambassador for the Children and Young People's Assembly for Wales, Funky Dragon.

Medrwch weld, mae'n siwr, pam ein bod ni fel Adran ac fel Prifysgol, mor falch o Rhodri a'i yrfa hyd yma a dymunwn bob llwyddiant iddo ar gyfer y blynyddoedd i ddod. I think that it’s clear why we are proud of Rhodri and his career and we wish him every success in the future.

Madam Is-Lywydd, mae’n fraint ac yn bleser o'r mwyaf gennyf gyflwyno i chi Rhodri Meilir, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.”

Graddio 2014

Mae Rhodri Meilir yn un o un ar ddeg o Gymrodyr sy’n cael eu hurddo yn ystod seremonïau graddio eleni, sydd yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau’r Brifysgol o ddydd Llun 14 tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.

Cyflwynir y teitl Cymrawd er mwyn anrhydeddu pobl adnabyddus sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i fywyd proffesiynol neu gyhoeddus yng Nghymru.

Y Cymrodyr eraill sydd yn cael eu hurddo eleni yw:

  • D. Geraint Lewis, awdur, cyn Llyfrgellydd Addysg a Phlant Dyfed a chyn Gyfarwyddwr Addysg Cynorthwyol gyda Chyngor Sir Ceredigion.
  • Yr Athro John Harries, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru a Ffisegydd atmosfferig o fri.
  • Jeremy Bowen, Golygydd Dwyrain Canol y BBC.
  • Syr Michael Moritz, cyfalafwr menter a dyngarwr sy’n wreiddiol o Gaerdydd
  • Ed Thomas, dramodydd, cyfarwyddwr, cynhyrchydd; un o sylfaenwyr a chyfarwyddwr creadigol ar y cwmni cynhyrchu Fiction Factory.
  • Rhod Gilbert, comedïwr a chyflwynydd rhaglenni radio a theledu.
  • Yr Athro Bonnie Buntain, Athro Ddeon Cynorthwyol Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Calgary yng Nghanada a chyn Brif Filfeddyg Iechyd Cyhoeddus yng Ngwasanaeth Diogelwch Bwyd ac Archwilio i Adran Amaeth yr Unol Daleithiau.
  • Dr John Sheehy, Pennaeth Emeritws ar y Labordy Ffotosynthesis Cymhwysol a Modelu Systemau yn y Sefydliad Ymchwil Reis Rhyngwladol, a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
  • Brian Jones, ffermwr, entrepreneur, a sefydlydd a Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Bwydydd Castell Howell Cyf.
  • Y Farwnes Kay Andrews, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Arglwyddi, cyn Gadeirydd English Heritage, a chyn fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

AU29114