Pencampwriaethau Gwyddbwyll Prydain

Y cam cyntaf, Cassie Graham (dde) yn wynebu Asha Jina

Y cam cyntaf, Cassie Graham (dde) yn wynebu Asha Jina

22 Gorffennaf 2014

Fe agorodd y 101 Pencampwriaethau Gwyddbwyll Prydain yn swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 21 Gorffennaf.

Yn ystod y Pencampwriaethau, sy’n cael eu cynnal dros bythefnos o’r 19eg Gorffennaf tan 2 Awst  bydd plant ac oedolion o bob oed yn herio rhai o chwaraewyr gorau’r Deyrnas Gyfunol.

Mi fydd mwy na 1,000 o gystadleuwyr yn wynebu ei gilydd yn ystod y Pencampwriaethau, sy’n dychwelyd i Aberystwyth wedi bwlch o 53 mlynedd; y tro diwethaf iddynt gael eu cynnal yn Aberystwyth oedd 1961.

Bydd y Pencampwr presennol, David Wei Liang Howell yn Aberystwyth i amddiffyn ei goron. Ac yntau yn 23 mlwydd oed, David yw’r Uwchfeistr gwyddbwyll ifancaf yn y Deyrnas Gyfunol.

A bydd Pencampwraig Merched Prydain, Akshaya Kalaiyalhan sy’n 13 mlwydd oed, hefyd yn cystadlu yn Aberystwyth ac yn gobeithio dal at ei choron.

Mae Pencampwriaethau Gwyddbwyll Prydain yn cael eu trefnu gan Ffederasiwn Gwyddbwyll Lloegr. Mae’r Ffederasiwn yn cynnal pencampwriaethau ar wahân i ddynion a merched. Ers 1923, bu adrannau ar gyfer plant, ac ers 1982 cafwyd pencampwriaeth ar gyfer oedolion sydd dros chwedeg mlwydd oed.

Mae lleoliad y Pencampwriaethau yn newid bob blwyddyn ac wedi eu cynnal mewn amryw leoliadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Gellir dilyn y cystadlu yn fyw drwy glicio yma.

 

AU30514