Cynhadledd iOSDevUK 4 yn dod i Aberystwyth

Cynhadledd iOSDevUK

Cynhadledd iOSDevUK

01 Medi 2014

Mae’r gynhadledd iOSDevUK 4 yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 2-4 Medi 2014, y digwyddiad mwyaf o'i fath yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r gynhadledd yn croesawu datblygwyr Apple o bob cwr o'r byd i ddysgu a rhannu gwybodaeth a phrofiadau o'r dechnoleg.

Eleni bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar lwyfan datblygu newydd Apple sef Swift, yn ogystal â thrafod tueddiadau newydd y diwydiant fel Technoleg Gwisgadwy.

Dywedodd yr Athro Chris Price o'r Adran Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a wnaeth hefyd sefydlu'r gynhadledd, "Mae iOSDevUK yn tyfu ac yn gwella bob blwyddyn  a’r gynhadledd eleni yw’r gynhadledd fwyaf cyffrous eto! Rydym yn falch iawn o gael siaradwyr mawreddog o'r fath yn ein cynhadledd yma yn Aberystwyth ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at iOSDevUK lwyddiannus arall."

Bydd y cynrychiolwyr yn cael cyfle i fynychu sgyrsiau a sesiynau tiwtorial gyda dros 20 o arbenigwyr Apple gasn gynnwys Colin Eberhardt o Scott Logic a fydd yn cyflwyno sesiwn ar ReactiveCocoa a datblygwr ap blaenllaw, Emily Toop, fydd yn edrych ar y ffordd y mae technolegau gwisgadwy yn chwyldroi gofal iechyd.

Dywedodd Dr Neal Harman, cyfarwyddwr prosiect Cynghrair Meddalwedd Cymru a noddwr y digwyddiad, "Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi digwyddiad mor wych. Mae iOSDevUK yn croesawu datblygwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant o bob cwr o'r byd i ddod a dysgu sgiliau TG newydd. Mae hyn, yng nghanol Cymru yn destament gwirioneddol i uchelgais y diwydiant technoleg yng Nghymru."

Mae’r gynhadledd, a noddir gan Lywodraeth Cymru, StartApp, Cynghrair Meddalwedd Cymru, Facebook, JetBrains AppCode a Bromium, yn denu rhai o’r arweinwyr mwyaf dylanwadol y diwydiant.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i http://www.iosdevuk.com/

AU33114