Ymateb i'r llythyr agored gan yr Undebau Llafur

19 Medi 2014

 

Rydym yn deall ac yn parchu hawliau ein staff i weithredu’n ddiwydiannol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn nodi, o blith oddeutu 1000 o staff sy’n gymwys i fod yn aelodau o Gynllun Pensiwn ac Aswiriant Prifysgol Aberystwyth (AUPAS), dim ond tua 100, neu 10%, sydd wedi dewis gwneud ar yr achlysur hwn.

Nid yw penderfyniad Cyngor Prifysgol Aberystwyth i gau'r cynllun AUPAS a chaffael dewis arall yn ddigynsail. Mae cynifer o brifysgolion, cwmnïau a sefydliadau eraill eisoes wedi gorfod newid neu gau eu cynlluniau pensiwn budd uniongyrchol gwreiddiol. Mae'n adlewyrchiad anffodus o amodau ariannol cyffredin na all yr un ohonom ddisgwyl buddion pensiynau i aros yr un fath yn y dyfodol; ac mae hyn yr un peth ar gyfer aelodau Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS), yr ydym yn rhagweld y bydd ymgynghoriad yn cychwyn arno cyn bo hir.

Nid yw’r Brifysgol yn cael unrhyw bleser mewn newidiadau a fydd yn arwain at ostyngiadau mewn budd-daliadau i rai unigolion, ond mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y Brifysgol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan ddiogelu swyddi a phrofiad ein myfyrwyr. Mae hynny'n golygu gwneud penderfyniadau anodd a rheoli risgiau ar ôl proses briodol o ymgynghori â'r rhai yr effeithir arnynt. Drwy gydol y broses, rydym wedi gweithio ar y sail bod rhaid i unrhyw gynllun yn y dyfodol fod yn fforddiadwy, yn gynaliadwy, ac mor ddeniadol â phosibl i staff. Rydym yn ddiolchgar i'n Hundebau Llafur cydnabyddedig am y rhan yr ydych yn ei chwarae yn y broses gaffael ar gyfer y cynllun newydd, rôl yr ydych yn ei chwarae’n llawn. Bwriad y cynllun newydd yw cynnig ystod o fanteision ychwanegol i staff. Bydd pob aelod o staff cymwys yn elwa, yn wahanol i aelodaeth rhannol y cynllun AUPAS, o gyfraniad cyflogwr o 10% o’r Brifysgol, heb ystyried a ydynt yn gwneud cyfraniad eu hunain. Nid ymarfer o wneud arbedion ariannol yw hyn. Ar hyn o bryd rydym yn talu £3.1 miliwn y flwyddyn ar gyfer AUPAS, ac yn rhagweld gwariant o £3.3m yn y blynyddoedd i ddod. Y gwahaniaeth yw bod AUPAS yn fath o gynllun lle na allwn wneud rhagfynegiadau cywir ar gyfer gwariant, a bydd yr un newydd yn golygu llawer llai o risg - er mwyn i ni fod yn sicr faint o arian y bydd yn rhaid i'r Brifysgol ei roi tuag at waith angenrheidiol arall.

Rydych yn nodi na all cydweithwyr fforddio colli cyflog. Mae'r gwasanaeth a'r profiad rydym yn ei gynnig i'n hymwelwyr a’n myfyrwyr yn hanfodol i ni, a rhaid inni sicrhau eu bod yn parhau ar lefel uchel. Byddwn yn atal cyflog y rhai sy'n gweithredu’n ddiwydiannol neu ddim yn gweithio fel arfer yn ystod y Penwythnos Croeso (yn cynnwys y dydd Gwener a dydd Llun). Fodd bynnag, fel sy'n arferol mewn amgylchiadau o'r fath, bydd hanner y cyflog a gaiff ei ddal yn ôl yn mynd i'r gronfa galedi myfyrwyr, a hanner i Undeb y Myfyrwyr i’w ddefnyddio at ddibenion caledi neu brofiad myfyrwyr.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn, ac yn bwriadu parhau i fod, yn lle gwych i weithio. Caiff hyn ei ategu gan ddangosyddion allanol diweddar er enghraifft cyflawni'r Safon Iechyd Gorfforaethol; nod siarter GEM ar gyfer cydraddoldeb rhyw yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ar gyfer staff cymorth academaidd a phroffesiynol; cyrraedd rhestr fer gwobr CIPD ar gyfer menter cysylltiadau gweithwyr y flwyddyn; a hefyd gan ein hadolygiad cyflawn diweddar o'r system dyrchafiadau academaidd a'r cynllun Pwyntiau Chyfraniad a Cynydd Ychwanegol, sydd wedi cael eu croesawu gan gydweithwyr. Nid cyfaddawdu ein hymrwymiad i staff yw newid y trefniadau pensiwn, fel y penderfynwyd arno yng nghyfarfod ein Cyngor ym mis Mehefin, ond cam angenrheidiol gan gyflogwr cyfrifol.

Unwaith eto, rydym yn croesawu eich ymrwymiad i gaffael ein cynllun pensiwn newydd, ac yn edrych ymlaen at gydweithio â chi wrth inni fwrw ymlaen â hynny.

AU35714