Dyfarnu Gwobr Efydd Athena Swan i Brifysgol Aberystwyth

Athena SWAN

Athena SWAN

25 Medi 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn ei Gwobr Siarter Athena SWAN gyntaf sydd yn cydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.

Mae'r Brifysgol yn un o saith o sefydliadau Addysg Uwch ac ymchwil sydd wedi ennill eu dyfarniad cyntaf Athena SWAN yn y gyntaf o ddwy rownd ddyfarnu eleni. Mae 83 o sefydliadau addysg uwch, sefydliadau ymchwil ac ysgolion unigol ac adrannau wedi derbyn gwobrau i gyd.

Mae Siarter Athena SWAN yn cydnabod ac yn dathlu arferion da ar recriwtio, cadw a dyrchafu menywod mewn pynciau STEMM mewn addysg uwch, ac mae wedi dod yn gynyddol bwysig i Sefydliadau Addysg Uwch a Chynghorau Ymchwil yn y Deyrnas Gyfunol.

Eglurodd yr Athro Kate Bullen, Cyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth, "Rydym wrth ein bodd gyda'r gydnabyddiaeth hon ar gyfer y Brifysgol sy'n tynnu sylw at y gwaith da yr ydym yn ei wneud ar gydraddoldeb rhyw ac yn enwedig gyda menywod mewn gwyddoniaeth.

"Gwyddom fod menywod yn cael eu tangynrychioli mewn gwyddoniaeth yn enwedig mewn swyddi uwch, ond rydym yn cymryd camau cadarnhaol i newid y cylch hwn drwy ddeall pam y gallai hyn fod, a'r hyn y gellid ei wneud i helpu menywod gyrraedd eu potensial llawn yn y gweithle."

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, "Mae ein Cyfarwyddwr Moeseg a Chydraddoldeb newydd, yr Athro Kate Bullen, wedi arwain y ffordd ar y gwaith pwysig hwn ac rydym i gyd yn hynod ddiolchgar ac yn hapus iawn gyda'r canlyniad.

"Dyfarnwyd Gwobr Efydd Marc Siarter Cydraddoldeb Rhyw (GEM) i’r Brifysgol yn ddiweddar sy'n cydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhyw yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae ennill Gwobr Efydd Athena SWAN hefyd ar gyfer ein hymrwymiad i fenywod mewn pynciau STEMM yn gamp enfawr ac yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn hynod falch ohono."

Yn gynharach y mis hwn (5 Medi), cafodd Prifysgol Aberystwyth ei chydnabod am yr hyn y mae wedi ei gyflawni ym maes hyrwyddo cydraddoldeb rhyw yn y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau gyrfaoedd cymdeithasol mewn addysg uwch.

Cyflawnodd y Brifysgol safon Efydd Marc Siarter Cydraddoldeb Rhyw (GEM) yr Uned Herio Cydraddoldeb (ECU) - y cynllun gwobrau cyntaf o'i fath ar gyfer y disgyblaethau hyn. Mae GEM hefyd yn cydnabod gwaith ar gydraddoldeb ar gyfer staff cymorth proffesiynol yn ogystal ag academyddion.

Cynhelir seremoni wobrwyo Athena SWAN ar ddydd Iau 6 Tachwedd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

AU41014