Cynhadledd Cymraeg Proffesiynol i ddisgyblion chweched dosbarth

Rhai o griw’r cwrs Cymraeg Proffesiynol

Rhai o griw’r cwrs Cymraeg Proffesiynol

26 Medi 2014

Wythnos nesaf (4 Hydref 2014) fe fydd Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth yn trefnu Cynhadledd Cymraeg Proffesiynol i ddisgyblion chweched dosbarth er mwyn amlygu cwrs sy’n dysgu sgiliau galwedigaethol gwerthfawr ar gyfer y gweithle.

Fe fydd cyflwyniadau yn cael eu gwneud gan Dylan Iorweth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Branwen Huws, Pennaeth Marchnata Y Lolfa, a Delyth Jewell, Pennaeth Ymchwil Plaid Cymru yn y Senedd yn Llundain, ac enillydd gwobr Ymchwilydd y Flwyddyn yn San Steffan eleni.

“Bwriad y gynhadledd yw rhoi blas ar y cwrs gradd Cymraeg Proffesiynol,” dywedodd Dr Rhianedd Jewell, Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol
ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Ar y diwrnod bydd cyfres o gyflwyniadau gan staff a myfyrwyr yr adran, yn ogystal â siaradwyr gwadd, a fydd yn trafod eu gyrfaoedd ym myd y Gymraeg.”

Mae Cymraeg Proffesiynol yn cynnwys elfennau o gwrs traddodiadol yn y Gymraeg ac mae’n ateb gofynion cyflogwyr am weithwyr profiadol sydd â sgiliau proffesiynol addas.

Mae’r cwrs gradd BA yn rhedeg ers tair blynedd erbyn hyn, ac eleni fe raddiodd y myfyrwyr cyntaf gyda chanlyniadau arbennig gyda 57% o fyfyrwyr Cymraeg Proffesiynol yn graddio gyda dosbarth cyntaf, a’r 43% arall gyda dau un uchel.

Ategodd Dr Jewell, “Mae ystadegau cyflogadwyedd yr adran hefyd yn cadarnhau gwerth y Gymraeg yn y Gymru sydd ohoni lle mae’r Comisiynydd Iaith yn cynyddu’r pwyslais a roddir ar y Gymraeg yn y gweithle. Rhywbeth nad yw’n cael ei sylweddoli yn aml yw gwerth gradd yn y Gymraeg fel cymhwyster.

“Mae ffigurau a gesglir yn flynyddol gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Prifysgolion yn dangos fod canran uchel iawn (96.3% yn achos myfyrwyr gradd gyntaf a 100% yn achos myfyrwyr ymchwil yn Adran Gymraeg Aberystwyth) yn llwyddo i gael swydd sy’n cyfateb i’w cymhwyster 6 mis ar ôl graddio.

“Bydd y gynhadledd yn dangos bod y Gymraeg yn agor drysau, ac rydym ni yn Aberystwyth yn cynnig y sgiliau galwedigaethol a fydd yn allweddol bwysig ar gyfer datblygu gyrfa ar ôl graddio.

“Yn ogystal â dysgu modiwlau iaith a llên traddodiadol, yr ydym bellach yn dysgu modiwlau sy’n trafod cyfieithu, gweinyddu a marchnata trwy’r Gymraeg, ac mae gennym nifer o leoliadau profiad gwaith proffesiynol.”

Mae’r adran hefyd yn gobeithio lansio cwrs MA mewn Cymraeg Proffesiynol ym mis Medi 2015, a fydd yn rhoi dilyniant i’r cwrs BA ac yn cynnig cyfleoedd gyrfaol tebyg i fyfyrwyr o gefndiroedd gwahanol.

Mae’r gynhadledd yn rhad ac am ddim ac mae’n agored i ddisgyblion chweched dosbarth a’u rhieni. Am fanylion pellach ac i gofrestru am y gynhadledd, cysylltwch â Dr Rhianedd Jewell ar 01970 628539 / rmj15@aber.ac.uk

AU40714