Agor adnoddau dysgu ac addysgu newydd

Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth France (canol) yn agor yr adnoddau dysgu ac addysgu newydd yn Adeilad Llandinam, gyda Nigel Thomas, Rheolwr Dylunio a Datblygu Gofod Dysgu a’r pensaer Nia Jeremiah.

Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Elizabeth France (canol) yn agor yr adnoddau dysgu ac addysgu newydd yn Adeilad Llandinam, gyda Nigel Thomas, Rheolwr Dylunio a Datblygu Gofod Dysgu a’r pensaer Nia Jeremiah.

29 Medi 2014

Mae cymal diweddaraf rhaglen fuddsoddi £3.6m i uwchraddio cyfleusterau addysgu a dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei gwblhau mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Uwchraddiwyd deg ystafell ddarlithio a seminarau, a mannau dysgu ac astudio yn Adeilad Llandinam y Brifysgol, cartref yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear, dros gyfnod yr haf.

Gwosodwyd yr offer clyweledol diweddaraf ym mhob un o’r ystafelloedd, yn ogystal â’u hail addurnod â’u dodrefnu mewn modd hyblyg er mwyn gallu adlewyrchu’r gwahanol anghenion dysgu ac addysgu, o weithio mewn grwpiau i drefn seminarau neu ddarlithoedd.

Bydd yr offer clyweledol  hefyd yn hwyluso’r gwaith o recordio darlithoedd er mwyn i fyfyrwyr fedru eu defnyddio drwy gyfrwng amgylchedd E-ddysgu Rhithwir y Brifysgol AberDysgu Blackboard, gan eu galluogi i ailedrych ar ddarlithoedd er mwyn hyrwyddo addysgu ac adolygu.

Mae Cyntedd Llandinam, a fu’n fan cyfarfod a chyfnewid syniadau i fyfyrwyr a staff ers blynyddoedd, bellach yn cynnig desgiau synergedd sy'n galluogi pobl i gysylltu eu teclynnau electronaidd symudol ac edrych ar eu gwaith ar sgriniau mawr, a thrwy hynny annog cydweithio ac astudio.

Trawsnewidiwyd ystafell arall yn Llandinam, B23.  Gosodwyd sgriniau mawr ar y waliau sydd wedi eu cysylltu â 102 o gyfrifiaduron sy'n galluogi darlithwyr a myfyrwyr i rannu gwybodaeth a syniadau yn ystod darlithoedd.

Mae desgiau, a gynlluniwyd yn arbennig at y pwrpas, yn cynnig pwyntiau gwefru USB ar gyfer teclynnau symudol, ac mae modd cadw’r sgriniau cyfrifiadur o’r golwg mewn mater o eiliadau os taw oes desgiau traddodiadol sydd eu hangen.

Yn ogystal, uwchraddiwyd offer un o brif ddarlithfeydd y Brifysgol, A12 yn adeilad Hugh Owen, ac ychwanegwyd nifer y seddi yno hyd at bron i 350.

Cafodd y cyfleusterau newydd eu hagor yn ffurfiol gan gynrychiolydd Cyngor y Brifysgol, y Dirprwy Ganghellor Elizabeth France, ar ddydd Gwener 26 Medi.

Dywedodd y Dirprwy Ganghellor France; "Mae'n bleser nodi agoriad y cyfleusterau newydd ardderchog hyn. Mae Aberystwyth yn cynnal un o'i rhaglenni buddsoddi mwyaf yn ei hanes ers ei sefydlu 142 mlynedd yn ôl. Mae'r cynnydd mewn boddhad myfyrwyr ag ansawdd yr addysgu a'r adnoddau dysgu a welwyd yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf (NSS) yn dangos yn glir fod y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn yn cael effaith fuddiol ar y profiad dysgu. Mae'r datblygiadau diweddaraf yn cynrychioli cam pellach sylweddol ac yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi ei wneud."

Cafodd y gwaith i ddylunio a chreu’r mannau addysgu a dysgu newydd ei arwain gan Nigel Thomas, Rheolwr Dylunio a Datblygu Gofod Dysgu a Nia Jeremiah, pensaer ar secondiad o Gyngor Sir Ceredigion.

Dywedodd Nigel Thomas: “Ein briff oedd creu mannau dysgu newydd golau sy’n darparu’r datblygiadau technegol diweddaraf ar gyfer addysgu, ynghyd â dodrefn modern a hyblyg a fydd o fudd i fyfyrwyr a staff, gan eu galluogi i weithio yn y ffordd sy'n gweddu orau iddynt.

“Mae'r tîm wedi gweithio'n galed iawn dros fisoedd yr haf i wneud hyn yn bosibl ac mae'n braf iawn gweld fod popeth yn ei le ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Rydym yn gobeithio yn fawr y bydd myfyrwyr a staff yn mwynhau’r cyfleusterau newydd ac yn manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig.”

Cam 1 o’r prosiect oedd uwchraddio’r cyfleusterau dysgu ac addysgu yn adeilad Hugh Owen. Cafodd y gwaith hwnnw ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/14. Ar yr un pryd cwblhawyd y gwaith i ail-ddatblygu adnoddau yng Nghanolfan Llanbadarn, buddsoddiad o £4 miliwn.

Mae’r tîm y prosiect yn cynllunio cam nesaf y gwaith ar hyn o bryd, a’r bwriad yw ei gwblhau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2015.

AU39514