Cynrychiolwyr o Aberystwyth yn mynychu symposiwm hinsawdd EUMETSAT

Mae’r Symposiwm Hinsawdd Flynyddol yn cael ei chynnal yr wythnos hon, 13-17 Hydref 2014

Mae’r Symposiwm Hinsawdd Flynyddol yn cael ei chynnal yr wythnos hon, 13-17 Hydref 2014

14 Hydref 2014

Mae myfyriwr sydd newydd raddio, a myfyriwr cyfredol o Brifysgol Aberystwyth wedi sicrhau cyllid gan Y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Manteisio ar Loerennau Meteoroleg (EUMETSAT) i gyflwyno’u gwaith yn y Symposiwm Hinsawdd Flynyddol sy’n cael ei chynnal yr wythnos hon yn ninas Darmstadt, yn yr Almaen.

Sicrhaodd Matt Gogledd, a raddiodd yn ddiweddar o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (DGES) ac sydd bellach yn gynorthwyydd technegol yn yr Adran, a'r myfyriwr ERASMUS Salim Lamine, gyllid fel ‘gwyddonwyr ar ddechrau’u gyrfa’ i fynychu'r gynhadledd.

Prif ffocws y gynhadledd yw ymchwil i’r hinsawdd ac arsylwi ar y ddaear, ac mae’n cael ei ystyried yn “gam pwysig tuag at ddiffinio gofynion a datblygiad pellach system arsylwi ar y ddaear o’r gofod sydd yn effeithlon ac yn gynaliadwy.”

Yn ogystal, bydd pynciau megis cymylau, cylchrediad a thymhorau hinsawdd, cylchrediad cefnforol, newid cylch dŵr ac amrywioldeb yn yr hinsawdd ranbarthol a newid yn cael eu trafod.

Bydd Matt yn cyflwyno ei waith ar “Ddilysu model 1D SVAT mewn Ecosystemau Ewropeaidd: Offeryn i astudio ein hinsawdd a rhyngweithiadau system y Ddaear” sef y dilysiad holl gynhwysfawr ar raddfa fawr cyntaf o fodel biosffer tir mewn ystod o ecosystemau Ewropeaidd.

Dywedodd Matt; "Fel un a raddiodd yn ddiweddar o DGES, sicrhau cyllid gan EUMETSAT oedd yr unig ffordd y gallwn i fynychu'r gynhadledd hon. Mae’r canlyniadau y byddaf yn eu cyflwyno yn deillio o'r dilysiad cyntaf ar draws Ewrop o'r model Biosffer tir SimSphere. Mae gallu monitro'r amgylchedd daearol yn gywir, yn enwedig drwy newid hinsoddol, yn hanfodol i wyddonwyr a'r gymuned fyd-eang fel ei gilydd. "

“Validation Operational Evapotranspiration Estimates from Geostationary Orbit Data: Results over European Ecosystems” yw teitl papur Salim.

Wrth siarad am y cymorth ariannol y mae wedi'i dderbyn, dywedodd Salim; "Ni fyddai wedi bod yn bosibl i mi fynychu'r symposiwm hwn a chyflwyno fy ngwaith oni bai am y cymorth ariannol gan EUMETSAT. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar yr Anwedd-drydarthiad, fel elfen sylweddol o'r cylch dŵr a sut y mae wedi ei gysylltiedig â'n system hinsawdd”.

Mae gwaith y ddau fyfyriwr yn deillio o brosiect ymchwil PROgRESSIon yn DGES, cynllun a gyllidwyd gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, ac un lle mae’r aelod staff o Brifysgol Aberystwyth, Dr George P. Petropoulos yn Brif Ymchwilydd.

Disgrifiodd Dr Petropoulos y Symposiwm Hinsawdd Flynyddol fel "cynhadledd bwysig iawn yn y defnydd o Fodelu Arsyllu’r Ddaear mewn newid hinsawdd.”

Mae modd gwylio’r Gynhadledd yn fyw ar lein yma http://www.theclimatesymposium2014.com/index_.php/climatesymposium/index a gellir ei dilyn ar Twitter gan ddefnyddio'r hashtag #climaspace

AU42814