Arddangosfa printiau Tseiniaidd

01 Hydref 2014

Yr Ysgol Gelfyn croesawu pedwar artist o Changsha, Tsieina.

Bywyd yn yr iâ: Pa mor bwysig yw microbau i rewlifoedd?

03 Hydref 2014

Gwyddonydd o Brifysgol Aberystwyth yn ennill gwobr ryngwladol am ymchwil i rewlifoedd.

Aberystwyth, prifysgol Masnach Deg

06 Hydref 2014

Y Sefydliad Masnach Deg yn adnewyddu statws Masnach Deg y Brifysgol am ddwy flynedd arall.

Arbenigwyr ar losgfynyddoedd ar raglen Science Cafe BBC Radio Wales

07 Hydref 2014

Dr Carina Fearnley a'r Athro John Grattan yn trafod actifedd folcanig yn sgil digwyddiadau folcanig diweddar.

Cyfarwyddwr newydd y Swyddfa Ryngwladol

07 Hydref 2014

Mae Ruth Owen Lewis wedi ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Swyddfa Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Llwyddiant ymryson pobi

07 Hydref 2014

Staff yn pobi ac yn codi £250 tuag at Cymorth Cancr Macmillan

Rôl newydd i Peter Curran

09 Hydref 2014

Mae Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid wedi ei benodi fel Cyfarwyddwr Cyllid newydd Chwaraeon Cymru.

Addasu biotechnolegau arloesol i fynd i’r afael â llyngyr parasitig

10 Hydref 2014

Y parasitolegydd, yr Athro Karl Hoffman, yn galw am addasu technolegau newydd er mwyn taclo lyngyr lledog parasitig sy’n heintio 300m o bobl bob blwyddyn.

Mecanwaith newydd ar gyfer adeiladu cyfrifiaduron cwantwm

10 Hydref 2014

Arsylwi aml o floc adeiladu sylfaenol system cwantwm, ‘qubit’, yn gallai arwain at greu cyfrifiaduron llawer mwy pwerus yn ôl Dr Daniel Burgarth o’r Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg.

Disgyblion Penglais i serennu ar Dragons’ Den

10 Hydref 2014

Yr Ysgol Rheolaeth a Busness ac Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cydweithio i gynhrychu fersiwn Aberystwyth o’r rhaglen boblogaidd, Dragons’ Den.

Darlith Goffa E H Carr: ‘Realism and the relativity of judgement’

13 Hydref 2014

Raymond Geuss, Athro Emeritws mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt i draddodi Darlith Goffa Flynyddol E H Carr ar ddydd Iau 30 Hydref.

Cynrychiolwyr o Aberystwyth yn mynychu symposiwm hinsawdd EUMETSAT

14 Hydref 2014

Matt North a Salim Lamine wedi sicrhau cyllid Y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Manteisio ar Loerennau Meteoroleg (EUMETSAT) i fynychu symposiwn hinsawdd yn yr Almaen.

Diwygio’r byd addysg

14 Hydref 2014

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, yn trafod nifer o benderfyniadau a diwygiadau allweddol a wnaed yn ystod ei gyfnod fel Gweinidog Addysg.

Gwobr o Awstralia i werslyfr Seicoleg

14 Hydref 2014

Mae gwerslyfr Seicoleg a addaswyd ar gyfer ei ddefnyddio yn Awstralasia gan Dr Verena Pritchard,  darlithydd mewn Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth, wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cymdeithas Gyhoeddi Addysgol Awstralia.

Myfyrwraig Aberystwyth yn ennill Ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol

15 Hydref 2014

Miriam Elin Jones i wneud ei doethuriaeth yn ymchwilio rhyddiaith Gymraeg.

Cymru canol oes Fictoria

15 Hydref 2014

Dr T Robin Chapman o Adran y Gymraeg i ddarlithio ar 'The turn of the tide: melancholy and modernity in mid-Victorian Wales' ar nos Lun 27 Hydref.

Shwmae Su’mae

15 Hydref 2014

Diwrnod i ddathlu a defnyddio’r Gymraeg, ymunwch yn yr hwyl a chofiwch, mi fydd yn talu i chi ofyn am eich paned yn Gymraeg yn un o gaffis y Brifysgol.

Gwobr dylunio arloesol i ymchwil o IBERS

17 Hydref 2014

Pwll glan môr artiffisial a ddatblygwyd gan fyfyrwraig PhD yn IBERS, Ally Evans, yn ennill gwobr genedlaethol am ymgorffori bioamrywiaeth i ddatblygiadau peirianneg.

Glasfyfyrwyr yn cymryd rhan mewn her raglennu

17 Hydref 2014

Yn ystod wythnos gyntaf eu blwyddyn gyntaf yn astudio Cyfrifiadureg yma yn Aberystwyth bu tri myfyriwr yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Raglennu’r Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon.

Mewnfuddsoddi: gwthio ffres neu agwedd newydd?

20 Hydref 2014

Prifysgol Aberystwyth a’r Sefydliad Materion Cymreig yn cynnal yr ail mewn cyfres newydd o ddadleuon.

A yw math o frîd yn dylanwadu ar allyriadau methan gwartheg pori?

20 Hydref 2014

Astudiaeth IBERS yn ymchwilio i rôl bridiau traddodiadol a modern o wartheg cig eidion o ran dylanwadu ar allyriadau methan, wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn PLOSONE.

Diwrnod Agored yn atyniad teuluol

21 Hydref 2014

Y teulu Baker yn hel atgofion yn ogystal â darganfod rhai newydd.

Cyhoeddi’r Dreigiau ar gyfer Aber Does Dragons’ Den

21 Hydref 2014

Pum person busnes amlwg o Aberystwyth yn perfformio rôl y 'Dreigiau' ar gyfer y recordiad o Aber Does Dragons’ Den sydd ar y gweill.

Rhaglen fridio ceirch ar restr fer gwobrau busnes

21 Hydref 2014

Tîm bridio planhigion arobryn IBERS ar restr fer categori Effaith Economaidd ar gyfer Gwobr Partneriaeth Busnes ac Addysg Gwobrau Insider Business 2014 am ei waith ar geirch.

Rhewlifegwyr yn teithio i Antarctica i astudio llynnoedd mawr

22 Hydref 2014

Bydd yr Athro Bryn Hubbard a Dr David Ashmore o’r Ganolfan Rewlifeg yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Abertawe ar silff iâ Larsen C.

Lansio Uned Rheoli Prosiectau a Newid

22 Hydref 2014

Sefydlu Uned Rheoli Prosiectau a Newid newydd sy’n cynnig cymorth ar gyfer cynllunio a gweithredu ystod eang o brosiectau o fewn i’r Brifysgol.

Dr Ayla Göl i gadeirio dadl CEFTUS

24 Hydref 2014

Dr Ayla Göl i gyd-gadeirio dadl yn San Steffan ar 'Twrci, y Cwrdiaid a'r Argyfwng yn y Dwyrain Canol'.

Cynnal Ffair Werdd gyntaf y Brifysgol

24 Hydref 2014

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ei Ffair Werdd gyntaf ar ddydd Mercher 29 Hydref gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth am faterion gwyrdd a chynaliadwyedd.

Doctor Who yn anghywir

29 Hydref 2014

Myfyrwyr IBERS yn herio datganiad Dr Who nad oes gan goed unrhyw rannau symudol ac nid ydynt yn cyfathrebu

Staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn diolch i gefnogwyr hael

29 Hydref 2014

Aberystwyth yn dathlu Wythnos Dyngarwch yng Nghymru.