"Dywedwch wrth y Byd am y Byd": Cymru, y Rhyfel Byd Cyntaf a Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Dr Jenny Mathers

Dr Jenny Mathers

07 Tachwedd 2014

Bydd Dr Jenny Mathers, Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn traddodi darlith sy’n cael ei threfnu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddydd Mawrth 11 Tachwedd.

Pwnc darlith Dr Mathers yw “Dywedwch wrth y Byd am y Byd”: Cymru, y Rhyfel Byd Cyntaf a Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Cynhelir y ddarlith yn y Pierhead, Caerdydd, gan ddechrau am 6pm, yng nghwmni'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn y ddarlith, bydd Dr Mathers yn olrhain datblygiad etifeddiaeth Gymreig benodol yn sgìl y Rhyfel Byd Cyntaf: sefydlu'r ddisgyblaeth academaidd Cysylltiadau Rhyngwladol gyda chreu’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth yn 1919.

Sefydlwyd yr Adran o ganlyniad i rodd hael gan David Davies, AS Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn ar y pryd a’r Arglwydd David Davies o Landinam yn ddiweddarach, a roddodd yr arian ar gyfer sefydlu cadair yn enw’r Arlywydd Americanaidd Woodrow Wilson.

Daeth Davies yn ymgyrchwr brwd dros heddwch yn sgil ei brofiad personol tra’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a’i obaith oedd canolbwyntio sylw ysgolheigion ar y materion pwysig a oedd yn wynebu'r ddynoliaeth, a thrwy hynny greu byd mwy heddychlon a chyfiawn.

Bydd y ddarlith yn trafod gweledigaeth Davies a sut yr adlewyrchir hi yn yr ymchwil a’r addysgu a wneir gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth.

Chwaraeodd yr Adran ran allweddol yn natblygiad y ddisgyblaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, gan arloesi meysydd newydd yn gyson, megis yr astudiaeth o strategaeth ac arfau niwclear yn y cyfnod wedi 1945, ymyrraeth ddyngarol fel math newydd o bolisi tramor ar ôl diwedd y Rhyfel Oer, ac astudiaethau diogelwch critigol fel ffordd newydd o ddeall beth mae diogelwch yn ei olygu i wahanol bobloedd ar draws y byd.

Mae gwaith sy’n cael ei wneud yn yr Adran ar hyn o bryd yn cynnwys edrych ar y cysylltiadau rhwng gwleidyddiaeth ryngwladol ac iechyd byd-eang, archwilio materion yn ymwneud â llywodraethu’r rhyngrwyd a diogelwch seiber, dyfnhau ein gwybodaeth am y dimensiynau cymdeithasol ac ieithyddol o lywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, a hyrwyddo ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a pholisi tramor mewn rhanbarthau fel Tsieina, America Ladin a'r Dwyrain Canol.

Mae Dr Jenny Mathers wedi bod yn aelod o staff academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ers 1992. Mae ganddi radd o Goleg Mount Holyoke (UDA) a Phrifysgol Rhydychen a’i phrif feysydd ymchwil ac addysgu yw gwleidyddiaeth a diogelwch Rwsia a gwragedd a rhyfel.

Mynychodd Dr Mathers Uwchgynhadledd Cymru NATO yn ddiweddar fel aelod o Dasglu’r DG ac mae'n sylwebydd cyson yn y cyfryngau ar faterion cyfoes, yn fwyaf diweddar yr argyfwng yn yr Wcráin.

Dywedodd Dr Mathers; “Roeddwn wrth fy modd i gael gwahoddiad gan y Cynulliad Cenedlaethol i draddodi’r ddarlith hon. Wrth i ni nodi canmlwyddiant dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn amryw ffyrdd, mae'n dda cael y cyfle i ystyried y digwyddiad hwn o ongl ychydig yn wahanol: fel man cychwyn disgyblaeth newydd ac etifeddiaeth unigryw sy'n golygu bod enw Aberystwyth yn hysbys ac yn uchel ei barch ym mhob man lle mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn cael ei hastudio.”

AU47614