‘Cofiwch am Ddynoliaeth: Ystyriaethau Diogelwch Hollbwysig i Wahardd Arfau Niwclear’

Dr Rebecca Johnson

Dr Rebecca Johnson

11 Tachwedd 2014

Dr Rebecca Johnson fydd yn traddodi Darlith Flynyddol 2014 Sefydliad Coffa David Davies a’i phwnc fydd  ‘Cofiwch am Ddynoliaeth: Ystyriaethau Diogelwch Hollbwysig i Wahardd Arfau Niwclear’.

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar ddydd Iau 13 Tachwedd am 6 yr hwyr.

Dr Johnson yw Is-lywydd yr Ymgyrch dros Ddiarfogi Niwclear (CND), Cyfarwyddwr Gweithredol Acronym Institute for Disarmament Diplomacy ac mae’n cael ei chydnabod fel arbenigwraig ar ddiarfogi ac atal amlhau niwclear ac mae ganddi fwy na 30 mlynedd o brofiad yn y maes.

Ei llyfr diweddaraf yw Trident and International Law a gyd-olygodd â Angie Zelter, ac sy'n edrych ar y berthynas rhwng y ataliad niwclear y DG a Chyfraith Ryngwladol.

Bydd y ddarlith yn canolbwyntio ar agweddau dyngarol o wahardd arfau niwclear. Yn ganolog i'r ddadl hon yw y byddai unrhyw ddefnydd posibl o arfau niwclear yn groes i gyfraith ddyngarol ryngwladol.

Un enghraifft a roddir yn aml yw y byddai ffrwydro bom niwclear yn torri egwyddor cymesuredd, tra hefyd yn lladd sifiliaid yn ddiwahân.

Mae Sefydliad Coffa David Davies yn rhan o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ac mae’r ddarlith flynyddol yn derbyn cefnogaeth hael gan Elusen Gwendoline a Margaret Davies.

AU49114