Aberystwyth yn lansio Cynllun Effaith Gwyrdd

Biniau ailgylchu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Biniau ailgylchu ym Mhrifysgol Aberystwyth

17 Tachwedd 2014

Mae Prifysgol Aberystwyth yn annog ei staff i gymryd rhan yn y cynllun Effaith Gwyrdd, rhaglen achredu a gwobrau amgylcheddol sy’n cael ei redeg gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Nod y cynllun yw hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd ymhlith staff a rhoi’r cyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu gweithle.

Dywedodd Hyfforddai Graddedig Amgylcheddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, Christopher Woodfield, "Mae’r rhaglen yn cefnogi timau ac adrannau i wneud newidiadau syml, pendant a phwerus mewn ymddygiad a pholisi o ran yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

"O ailgylchu, i fuddsoddi mewn offer mwy effeithlon, er mwyn annog bioamrywiaeth, neu Masnach Deg, mae’r meini prawf amrywiol yma yn ymdrin ag ystod eang o faterion o dan yr ymbarél cynaliadwyedd.

"Byddem wrth ein bodd i weld cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan o bob adran. Mae hyn er mwyn galluogi'r Brifysgol i fod yn llwyddiannus ac yn greadigol i fynd i'r afael â'r cyfle cyffrous a heriol yma o ddyfodol cynaliadwy."

Mae Effaith Gwyrdd yn dilyn cylch syml ond effeithiol, gan ganolbwyntio ar ddarparu camau gweithredu syml, cefnogi pobl i wneud y newidiadau ac yn eu gwobrwyo am eu hymdrechion.

Gall staff arwyddo i Effaith Gwyrdd drwy www.greenimpact.org.uk/Aberystwyth a llenwi llyfr gwaith ar-lein.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Christopher Woodfield ar sustainability@aber.ac.uk neu ewch i'r tudalennau gwe newydd ar gynaliadwyedd www.aber.ac.uk/en/sustainability

AU48914