Fferm Penglais

Fferm Penglais

Fferm Penglais

21 Tachwedd 2014

Ddydd Mercher yr wythnos hon cadarnhaodd Balfour Beatty wrth y Brifysgol y bydd y gwaith i gwblhau rhan gyntaf Fferm Penglais yn golygu y bydd modd i fyfyrwyr symud yno yn syth ar ôl eu harholiadau ym mis Ionawr.

Mae’r Brifysgol yn siomedig nad yw Balfour Beatty wedi llwyddo i gwblhau’r gwaith ar Fferm Penglais yn unol â’i hamserlen  wreiddiol nac ychwaith yr amserlen ddiwygiedig  a gyhoeddwyd ganddynt ar ddechrau Awst.

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y llety a ddarperir ar Fferm Penglais o’r safon uchaf posibl, ac na fu unrhyw gyfaddawdu ar y safon honno er mwyn sicrhau dyddiad cwblhau cynharach.

Er mwyn lleihau'r effaith ar astudiaethau ac arholiadau’r myfyrwyr, mae’r Brifysgol wedi cynnig eu bod yn symud i Fferm Penglais ar ddiwedd y cyfnod arholiadau, rhwng 21 a 25 Ionawr 2015.

Bydd y Brifysgol yn cynorthwyo myfyrwyr gyda’r symud o’u llety Prifysgol presennol i’w llety newydd ar Fferm Penglais. Ni fydd hyn yn costio dim i’r myfyrwyr nac i’r Brifysgol.

Mewn datganiad mae Balfour Beatty wedi ymddiheuro am yr oedi a’u hanallu i gwblhau rhan 1 erbyn diwedd Hydref. Mae’r datganiad yn darllen fel a ganlyn: “Mae Balfour Beatty yn ymddiheuro am yr oedi cyn i chi symud, ond am eich sicrhau ein bod wedi gweithio i ddarparu’r safon uchaf yn Fferm Penglais, ac y byddwch wrth eich boddau gyda’ch llety newydd.”

Hysbysodd y Brifysgol y myfyrwyr sydd am symud i fyw i Fferm Penglais o’r amserlen newydd drwy gyfrwng e-bost ar ddydd Gwener 21 Tachwedd.

Mae'r Brifysgol yn hyderus y bydd y llety a ddarperir ar Fferm Penglais gyda’r gorau sydd ar gael mewn unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.

AU50914