Cymrawd Fulbright o’r UD i daflu goleuni ar lawysgrif Y Llyfr Teg

Jacqueline Marie Burek

Jacqueline Marie Burek

24 Tachwedd 2014

Bydd Jacqueline Marie Burek, Cymrawd Fulbright o New Jersey yn yr Unol Daleithiau, yn cynnal sgwrs yfory (Dydd Mawrth 25 Tachwedd) am ei hymchwil ar Y Llyfr Teg, llawysgrif Gymraeg o Gyfreithiau Hywel Dda a thestunau eraill sydd yn dyddio yn ôl i tua 1400.

Mae Jacqueline yn un o tua 35 o fyfyrwyr o’r UD sydd wedi derbyn nawdd i astudio yn y Deyrnas Gyfunol (DG) eleni fel rhan o'r Rhaglen Gwobrau Ysgolhaig Fulbright.

Eleni mae mwy nag erioed ar y rhaglen sydd wedi ei chynllunio i alluogi academyddion a gweithwyr proffesiynol i ddarlithio, astudio neu wneud gwaith ymchwil yn y DG.

Fe fydd sgwrs ac ymchwil Jacqueline, sy’n cael ei gynnal yn Llyfrgell Hugh Owen am 5.15yp, yn edrych ar y berthynas rhwng testunau Y Llyfr Teg (Peniarth MS 32) sy'n cynnwys rhyddiaith grefyddol a seciwlar Cymraeg yn ogystal ag un cronicl a ysgrifennwyd yn y Lladin.

Mae ei doethuriaeth yn canolbwyntio ar waith tri hanesydd o’r 12fed ganrif - William o Malmesbury, Henry o Huntingdon a Geoffrey o Fynwy a oedd yn ysgrifennu yn y Lladin.

Esboniodd y fyfyrwraig o Brifysgol Pennsylvania; "Bwriad fy ymchwil yw deall pam fod y tri hanesydd yma mor boblogaidd yn yr Oesoedd Canol, a sut y defnyddiwyd eu gwaith gan bobl yng Nghymru yn y cyfnod hwnnw i ysgrifennu eu gwaith eu hunain, yn Lladin ac yn eu hiaith eu hunain.

“Doedd y ffiniau ieithyddol ddim mor gaeth yn ystod y cyfnod hwn ag y maent heddiw”.

Roedd Jacqueline yn awyddus i astudio yn Aberystwyth oherwydd yr iaith Gymraeg, enw da’r Adran Gymraeg ac agosatrwydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn 27 mlwydd oed, mae Jacqueline hefyd yn parhau i astudio’r Gymraeg.

Ychwanegodd; “Mae'r Gymraeg yn iaith anhygoel. Yr wyf yn clywed yr iaith Gymraeg drwy'r amser ar y campws ac yr wyf yn ymarfer yn rheolaidd drwy siarad gyda ffrindiau a chydweithwyr. Mae cael y Llyfrgell Genedlaethol yn ogystal â'r môr ar garreg y drws hefyd yn fonws mawr ac rwy'n eithriadol o hapus yma.”

Yn ei hamser hamdden, mae Jacqueline wedi ymuno Grŵp Treftadaeth a Hanes Fforwm Cymunedol Penparcau ac yn gwneud gwaith ymchwil ar ran y grŵp.

Mae'r Comisiwn Fulbright hefyd yn cynnig y Sefydliad Haf Cymru Comisiwn Fulbright sy'n trefnu i fyfyrwyr o’r Unol Daleithiau i ymweld â Chymru am chwe wythnos yn ystod gwyliau'r haf.

Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn, mae'n rhaglen ddiwylliannol ac academaidd benodol ar gyfer myfyrwyr o’r UD sy’n cael ei gynnal mewn tair prifysgol yng Nghymru sy'n adnabyddus yn rhyngwladol: Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd.

Mae'r Comisiwn Fulbright wedi bod yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol trwy ysgoloriaethau addysgol ers mwy na 60 mlynedd.

AU49914