Lansio Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth

Aled Jones-Griffiths, Coleg Meirion Dwyfor, Yr Athro April McMahon Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Gareth Jones o Coleg Cambria. Lansiwyd y rhaglen newydd yn Ffair Aeaf y Sioe Amaethyddol

Aled Jones-Griffiths, Coleg Meirion Dwyfor, Yr Athro April McMahon Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Gareth Jones o Coleg Cambria. Lansiwyd y rhaglen newydd yn Ffair Aeaf y Sioe Amaethyddol

18 Rhagfyr 2014

Mae Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi cynlluniau heddiw i gyflwyno Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth ar y cyd.  Mae'r cwrs gradd FdSc Amaethyddiaeth yn gwrs masnachfraint.

Prifysgol Aberystwyth - IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) fydd yn dilysu ac yn dyfarnu’r radd, a fydd yn cael ei chyflwyno ar safleoedd y colegau yn Llysfasi a Glynllifon o Fedi 2015.

Bydd y radd sylfaen rhan-amser hon yn cyfuno dysgu academaidd a dysgu yn y gwaith ac fe’i lluniwyd i apelio at y rhai hynny sy’n dymuno dilyn y proffesiwn amaethyddol, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n chwilio am ddatblygiad proffesiynol parhaus.  Cynhelir y cwrs am un diwrnod yr wythnos, am 36 wythnos y flwyddyn am bedair blynedd.  Bydd yr amser dysgu yn cael ei rannu’n gyfartal mewn blociau chwe wythnos rhwng campws Glynllifon a champws Llysfasi.  Bydd hyn yn galluogi’r myfyrwyr i fanteisio ar gyfleusterau ac adnoddau dysgu gorau’r ddau safle.

Ar ôl cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen i ail flwyddyn cynllun Gradd Anrhydedd Amaethyddiaeth, gan gynnwys BSc (Anrhydedd) Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Prifysgol Aberystwyth yw un o ganolfannau mwyaf blaenllaw Prydain ar gyfer astudio Amaethyddiaeth ac mae’n arwain y byd ym maes ymchwil, ac rydym wrth ein bodd yn cael nodi lansio’r radd sylfaen ddwyieithog newydd hon mewn partneriaeth â Choleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai.

“Mae cenedlaethau o bobl ifanc sydd am weithio yn y diwydiant amaethyddol wedi elwa ar y cyfleoedd ardderchog mae Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.  Roedden ni wrth ein bodd yn gynharach eleni pan gyhoeddwyd bod, enillydd Ysgoloriaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Llyndy Isaf, am yr ail flwyddyn yn olynol, wedi graddio yn Aberystwyth.

“Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd y rhaglen newydd hon yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl ifanc i gyflawni eu potensial a symud ymlaen i brifysgol.  Mi fyddan nhw yn elwa fel unigolion, a bydd yn sector amaethyddol yng Nghymru yn elwa hefyd.”

Dywedodd David Jones, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Cambria; “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael gweithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai a Phrifysgol Aberystwyth ar y cwrs gradd sylfaen newydd cyffrous yma mewn Amaethyddiaeth.

“Mae ein cyrsiau amaethyddiaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn am nifer o flynyddoedd ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y radd sylfaen hon yn cynnig cyfle gwych i ddysgwyr sydd eisiau mynd ymlaen i astudio ar lefel uwch a pharhau i weithio yn y diwydiant ffermio yr un pryd.”

Ychwanegodd Aled Jones-Griffiths, Aled Jones-Griffiths, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion Dwyfor; “Mae'r cwrs Addysg Uwch yma yn cynnig cyfleoedd gwych i fyfyrwyr o'r gymuned amaethyddol leol i adeiladu ar y profiadau rhagorol maent yn eu derbyn eisoes yng Nglynllifon. Gall hyn ond bod o fudd i'r sector amaethyddol a’u busnesau nhw eu hunain".

Trefnwyd nosweithiau agored yn Llysfasi a Glynllifon ddydd Mercher 28 Ionawr 2015, rhwng 4.30 a 6.00pm, ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y radd.

AU52714