Pennaeth newydd i’r Ysgol Rheolaeth a Busnes

Yr Athro Mike Christie

Yr Athro Mike Christie

06 Ionawr 2015

Yr Athro Mike Christie yw Pennaeth newydd yr Ysgol Rheolaeth a Busnes, sy’n rhan o Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth.

Graddiodd yr Athro Christie mewn amaethyddiaeth o Brifysgol Aberdeen, a dyna hefyd lle y cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn Economeg Amgylcheddol. Yn 1996, cafodd ei benodi’n Ddarlithydd mewn Economeg Amgylcheddol yn Sefydliad Astudiaethau Gwledig Prifysgol Aberystwyth cyn cael ei benodi'n Athro Economeg Amgylcheddol a Ecolegol yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn 2012.

Wrth longyfarch yr Athro Christie ar ei benodiad, dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; “Rwyf wrth fy modd fod Mike wedi cael ei benodi i arwain yr Ysgol Rheolaeth a Busnes. Mae'n ymchwilydd rhagorol a bydd yn anelu i ddatblygu agenda ymchwil yr Ysgol ymhellach. Rwy'n hyderus y bydd ei brofiad o bob rhan o'r Brifysgol yn cefnogi nod y Brifysgol o weithio rhyngddisgyblaethol, a bydd yn sicrhau bod yr Ysgol yn parhau i ddarparu profiad ardderchog i fyfyrwyr.”

Dywedodd yr Athro Christie; “Braint fawr i mi yw cael fy mhenodi’n Bennaeth yr Ysgol Rheolaeth a Busnes. Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol ac wedi cyrraedd y rhestr fer yn ddiweddar ar gyfer yr Ysgol Fusnes Gorau'r Flwyddyn yng Ngwobrau’r Times Higher Education.

“Mae record ymchwil yr Ysgol hefyd yn drawiadol gyda phrosiectau diweddar yn cael eu hariannu gan bump o'r saith Cyngor Ymchwil yn Deyrnas Unedig, yr Uned Ewropeaidd, a Llywodraethau’r Deyrnas Gyfunol a Chymru. Fy ngweledigaeth ar gyfer yr Ysgol yw parhau i ddatblygu ei chryfderau fel ysgol fusnes brif-ffrwd. Yn ogystal, a chan adeiladu ar ein cryfderau ymchwil ac ardal Aberystwyth, hoffwn ddatblygu'r Ysgol fel canolfan ragoriaeth fwyaf blaenllaw’r Deyrnas Gyfunol ym maes economeg wledig, amgylcheddol a datblygiad busnes.”

Dywedodd yr Athro Andrew Henley, Cyfarwyddwr yr Athrofa Rheolaeth, y Gyfraith a Gwyddor Gwybodaeth (IMLIS); “Mae Mike eisoes yn aelod o Dîm Gweithredol IMLIS, gan iddo wasanaethu fel Cyfarwyddwr Ymchwil am yr 16 mis diwethaf. Rwyf wrth fy modd ei fod yn cymryd at arweinyddiaeth yr Ysgol, ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef yn y rôl newydd hon.”

Mae’r Athro Christie yn Aelod Gweithredol o Rwydwaith Economeg Amgylcheddol y Deyrnas Gyfunol a Phartneriaeth Gwasanaeth Ecosystem, ac yn Olygydd Cysylltiol y cyfnodolyn Ecosystem Services.  Mae’n aelod gweithgar o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes, ac yn dysgu micro-economeg ac economeg amgylcheddol/ecolegol.

Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yw ei ddiddordeb ymchwil, ac mae’n arbenigo ar y modd y mae gwerth economaidd a chymdeithasol yn cael ei osod ar wasanaethau ecosystemau a bioamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys defnyddio technegau arolwg arbenigol sy'n asesu sut mae pobl yn elwa o’r amgylchedd naturiol ac wedyn yn ymgorffori'r blaenoriaethau (economaidd) hyn i mewn i benderfyniadau polisi er mwyn rheoli ein hamgylchedd fregus mewn modd mwy cynaliadwy.

Yn ddiweddar cafod prosiectau ymchwil eu hariannu gan raglenni NERC ‘Valuing Nature Network’, ‘Biodiversity and Ecosystem Services for Sustainability’ a ‘Ecosystem Services for Poverty Alleviation’ yn ogystal ag ymchwil mwy cymhwysol ar ran Defra.

Yn gynyddol, mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar archwilio effeithiau colli bioamrywiaeth ar les dynol mewn gwledydd sy'n datblygu, gydag astudiaethau sy'n ymchwilio i effeithiau ar les a bywiolaeth pobl yn sgil digoedwigo fforestydd trofannol yn Indonesia, Madagascar a'r Ynysoedd Solomon, a dirywiad riff cwrel yn y Caribî.

Cyfrannodd hefyd at yr adroddiad ‘The Economics of Ecosystems and Biodiversity’ (TEEB) ac at Asesiad Ecosystem Cenedlaethol y DG. Bu’r ddau’n ddylanwadol iawn o ran dadlau’r achos economaidd dros warchod bioamrywiaeth fyd-eang. Mae hefyd wedi cynnal amryw o gyrsiau adeiladu gallu ar gyfer rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) ar Asesiadau Ecosystemau yn Affrica, Asia, y Caribî a De America.

Mae’r Athro Christie yn olynu'r Athro Steven McGuire a fydd yn dechrau yn ei swydd newydd fel Pennaeth Busnes, Rheolaeth ac Economeg ym Mhrifysgol Sussex ym mis Mawrth.

Cafodd Ysgol Rheolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth ei chydnabod yn ddiweddar fel un o adrannau mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Gyfunol a’i chynnwys ar restr fer categori Ysgol Fusnes Orau’r Flwyddyn yng Ngwobrau’r Times Higher Education.

AU54614