Meistri’r awyr: Hebogiaid a gweilch yn cadw trefn uwchlaw Penglais

Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Prifysgol Aberystwyth, Phil Maddison a’r Hebog Harris, ‘Hope’

Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Prifysgol Aberystwyth, Phil Maddison a’r Hebog Harris, ‘Hope’

29 Ionawr 2015

Ers dwy flynedd, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn galw ar wasanaethau Hawksdrift Falconry i reoli’r boblogaeth o wylanod ar gampws Penglais.

Ar ddydd Gwener 30 Ionawr, bydd perchennog Hawksdrift Falconry, Layla Bennett yn rhoi seminar i fyfyrwyr a staff ar heboga fel ffordd o reoli poblogaeth gwylanod y Brifysgol.

Cynhelir y sgwrs yn Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am 2 o’r gloch y prynhawn.

Yn ystod ei sgwrs, bydd Layla yn trafod effaith heboca ar y gwylanod sy’n byw ar gampws y Brifysgol, ynghyd ag agweddau eraill o waith y cwmni.

Ymddangosodd Layla ar Dragon’s Den, ac ar Oxford Street Revelaed lle bu’n defnyddio’i hebog ‘Hope’ i reoli poblogaeth colomennod.

Yn oygstal â 'Hope', a ymddangosodd mewn sgwrs debyg ar ddydd Llun 26 Ionawr, bydd ‘Monty’, Hebog Chwyldro (Gyrfalcon) yno hefyd.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn chwilio am ffyrdd o reoli niferoedd y gwylanod ar gampws Penglais, yn enwedig yn ardal piazza Canolfan y Celfyddydau. Gwylanod penwaig yw'r gwylanod mwyaf cyffredin ar y campws.

Mae'r hebogiaid wedi cael eu defnyddio i atal y gwylanod rhag nythu ar adeiladau ar gampws Penglais, ac mewn cyfnod o ddeuddeg mis gwelwyd cwymp yn eu niferoedd o 50%.

Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch Prifysgol Aberystwyth, Phil Maddison; "Mae’n ddyletswydd arnom ni i ofalu am ein myfyrwyr a’n staff yma yn Aberystwyth ac i gymryd camau i leihau'r perygl o ddigwyddiadau ar y campws sy’n gysylltiedig â gwylanod. Rydym yn gwerthfawrogi  bod y gwylanod yn rhywogaeth warchodedig, ac felly rydym wedi dewis dull naturiol o wasgaru’r adar er mwyn reoli’r poblogaeth yma yn y Brifysgol. "

Sgwrs i fyfyrwyr a staff yw hon.

AU2115