Je Suis Charlie? Rhyddid a chyfyngiadau ar fynegiant

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

02 Chwefror 2015

Mae’r ymosodiad ar swyddfeydd y cylchgrawn Ffrangeg dychanol Charlie Hebdo ym mis Ionawr wedi ennyn protestiadau a thrafodaethau ledled y byd wrth ystyried ble y dylid tynnu’r linell wrth gyflawni ac amddiffyn yr hawl i ryddid mynegiant.

Ymunwch â staff o’r Adran Wleidyddiaeth Ryngwladol i ystyried rhai o ganlyniadau’r digwyddiad hwn a sut y gallwn eu dehongli.

Y siaradwyr fydd Yr Athro Richard Beardsworth, Dr Madeleine Carr, Yr Athro Andrew Linklater, Dr Sergey Radchenko a Dr James Vaughan.

Cynhelir y digwyddiad am 6 yr hwyr ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Ddydd Llun, 2 Chwefror 2015.

Croeso i bawb

AU4315