Gwobr Awdur y Flwyddyn i diwtor dysgu o bell

Dr Jacqueline Jeynes

Dr Jacqueline Jeynes

05 Chwefror 2015

Mae’r tiwtor Dysgu o Bell ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Jacqueline Jeynes wedi ennill gwobr “Awdur y Flwyddyn” y Freelance Market News/The Writer’s Bureau.

Enillodd Jacqueline y wobr ar sail ei gwaith ysgrifennu ar gyrsiau dysgu o bell Hanes Celf Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, ac mae hefyd wedi dod yn newyddiadurwraig teithio a chynghorydd ar gyfer Silver Travel Advisor sydd wedi ei anelu at y grŵp oedran 50+.

O fewn y flwyddyn ddiwethaf aeth ar dair taith ar ei cyfer, gan ymweld â gwlad y Magyar yn Hwngari, tiroedd y Groegiaid Hynafol yn Thessaloniki, ac ychydig cyn y Nadolig bu’n ymweld â’r Penrhyn Iberiaidd, gan deithio i'r Algarve ym Mhortiwgal.

Nid dyma’r tro cyntaf i Jacqueline brofi llwyddiant; cafodd ei chynnwys ar restr fer am wobr arloesi a chynaliadwyedd gan Gymdeithas Ddysgu Gydol Oes y Prifysgolion, am ddatblygu modiwlau Dysgu o Bell a ysgrifennwyd ganddi.

Mae 2015 yn argoeli am fod yn flwyddyn gyffrous arall, gan y bydd dau lyfr newydd ar bynciau tra gwahanol yn cael eu cyhoeddi gan Jacqueline yn yr haf.

Bydd y gyfrol The Forgotten Prisoners of War: FEPOWs and their families yn cael ei chyhoeddi i gydredeg gyda 70 mlwyddiant diwrnod VJ (Buddugoliaeth yn Japan) ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ar y 14eg o Awst.

Mae’r ail gyfrol Walking Wales: an Artists View of the Wye Valley Way yn un llawer mwy hamddenol ac yn seiliedig ar daith gerdded 135 o filltiroedd dros 15 diwrnod. Bydd y llyfr yn cynnwys lluniau gan Jacqueline yn ogystal â delweddau celf o gasgliad digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Hon fydd y gyntaf o dair yn y gyfres Walking Wales.

Wrth esbonio'r gwahaniaeth rhwng y ddau lyfr, dywedodd Jaqueline: “Rwy’n hoff iawn o gerdded, yn enwedig yr her o deithiau cerdded hir. Bum yn cerdded yn Venezuela gyda Chymdeithas Gristnogol Menywod Ifanc, ac yng Nghiwba gyda’r elusen MIND, lle’r oedd y cerdded yn galed a’r golygfeydd yn wych.

“Mae’r llyfr arall ar bwnc hollol wahanol, ac roedd y dyddiad cau wedi ei osod oherwydd penblwydd diwrnod VJ ym mis Awst 2015, felly fy ngobaith yw ei gyhoeddi cyn hynny. Roedd fy nhad yn garcharor rhyfel yn Japan, a bum yn ymchwil, yn rhannol yn rhinwedd fy rôl fel ysgrifennydd grŵp Carcharorion Rhyfel y Dwyrain Pell Canolbarth Lloegr (FEPOW), ar y teuluoedd gan fod cyn lleied wedi cael ei ddweud amdanyn nhw.

“Cyhoeddwyd erthygl fer gennyf yn y cylchgrawn Your History am brofiadau fy nhad rhwng 18 ac 21 oed. Mae'r holl ymchwil wedi ei gyfuno gyda chyfraniadau gan deuluoedd yn y Deyrnas Gyfunol, Awstralia a Chanada, er bod cyfle o hyd i gyfrannu atgofion eraill cyn mis Mai.”

AU3515