Talu teyrngedau i’r hanesydd Dr John Davies

Dr John Davies

Dr John Davies

17 Chwefror 2015

Gyda thristwch mawr y nodwn farwolaeth yr hanesydd a’r cyn-aelod staff, Dr John Davies a fu farw ar ddydd Llun 16 Chwefror.

Yn raddedig o Brifysgol Caerdydd a Choled y Drindod Caergrawnt, ymunodd Dr Davies â Phrifysgol Aberystwyth yn ddarlithydd yn Adran Hanes Cymru yn 1973. Cafodd ei ddyrchafu’n uwch ddarlithydd yn 1981 a bu’n  aelod o’r adran tan iddo ymddeol yn gynnar yn 1990.

Yn 1974 cafodd ei benodi yn Warden Pantycelyn. Cyflawnodd y swydd hon am 18 mlynedd, tan 1992.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
"Roedd Dr John Davies yn aelod hynod dalentog o genhedlaeth nodedig o haneswyr Cymru ac mae ei ysgrifau wedi cyfrannu at ail-lunio ein canfyddiadau o orffennol Cymru.

"Bydd yn cael ei gofio orau am ei gyfrol Hanes Cymru (History of Wales), yr unig lyfr a gyhoeddwyd gan Penguin mewn iaith ar wahân i'r Saesneg ers yr Ail Ryfel Byd. Mae'n gamp ysgolheigaidd o bwys a daeth i sylw cynulleidfa ryngwladol newydd yn sgil ei chyfieithu i’r Saesneg.

"Mae gwaith Dr Davies hefyd yn cwmpasu gwaith ar ddatblygiad tirwedd Cymru, hanes Caerdydd, hanes swyddogol o ddarlledu, ac astudiaeth finiog o iechyd rhwng y rhyfeloedd. Adlewyrchir ei fagwraeth, yn gyntaf yn y Rhondda ddiwydiannol, ac yna yng nghefn gwlad Ceredigion, yn yr ystod o themâu hanesyddol y bu'n astudio ac yn taflu goleuni arnynt.

"Caiff ei gofio’n annwyl iawn gan gyn-gydweithwyr a chenhedlaeth o fyfyrwyr a fu’n astudio gydag ef yn ystod ei gyfnod fel aelod o staff yn Adran Hanes Cymru, ac am ei waith bugeiliol ysbrydoledig fel Warden Pantycelyn.

"Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei weddw Janet a’r teulu."

AU6815