Chwalu Rhwystrau i Newidiadau Gwirioneddol i’n Ffermio a’n Systemau Bwyd

Caroline Drummond, Prif Weithredwr Linking Environment and Farming

Caroline Drummond, Prif Weithredwr Linking Environment and Farming

18 Chwefror 2015

Bydd Caroline Drummond, Prif Weithredwr Linking Environment and Farming, yn traddodi anerchiad cyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fercher, 25 Chwefror o 6.00pm.

Hon fydd y gyntaf yng nghyfres darlithoedd cyhoeddus Sêr Cymru y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE) ac fe’i chroesawir i Gampws Penglais y Brifysgol gan yr Athrofa Astudiaethau Biolegol ac Amgylcheddol (IBERS).

Yn ei chyflwyniad ‘Breaking Down the Barriers to Deliver Real Change to our Farming and Food Systems’, bydd Caroline Drummond yn edrych ar yr heriau sy’n wynebu ein planed, y gymuned wyddonol a’r gymdeithas ehangach ac sydd angen ymroi i’w datrys er mwyn llwyddo i ddod â newidiadau hir-dymor ac ystyrlon i gynaliadwyedd systemau ffarmio, ein dulliau o gynhyrchu bwyd a’r hyn yr ydym yn ei fwyta.

Bydd yn rhoi sylw i rai o’r meysydd lle mae newidiadau go iawn yn dechrau digwydd ac yn amlygu meysydd lle mae angen dull newydd o feddwl.

Eglurodd Yr Athro David Thomas, Cyfarwyddwr NRN-LCEE: “Hon yw’r gyntaf mewn cyfres o ddarlithoedd i’w cynnal yn ein partner-sefydliadau ledled Cymru, a fydd yn darparu fforwm agored i adlewyrchu ffocws traws-ddisgyblaethol yr NRN-LCEE ym meysydd ymchwil amgylcheddol, biowyddorol, carbon isel ac ynni. Mae’r achlysur yn addo rhoi llwyfan i drafodaeth mewn dau o brif feysydd ein blaenoriaethau ymchwil thematig, sef: Dwysâd Cynaliadwy, ac Effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd a Gweithgaredd Dynol a sut i’w Lliniaru”.

“Fel partner yn yr NRN-LCEE, mae’n bleser gennym gynnal darlith gyntaf y gyfres hon yn IBERS, ac i groesawu ein siaradwr nodedig. Edrychwn ymlaen i groesawu aelodau’r cyhoedd a chydweithwyr o’r gymuned ymchwil i ymuno â ni ar yr achlysur” ychwanegodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS.

Mae’r achlysur yn agored i bawb, ac nid oes angen archebu ymlaen llaw. Cynhelir derbyniad diodydd am ddim yn IBERSbach o 6.00pm, a bydd y ddarlith yn dilyn am 6.30pm yn Adeilad Edward Llwyd gerllaw ar Gampws Penglais ym Mhrifysgol Aberystwyth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr achlysur gweler: www.aber.ac.uk/cy/events/lectures

Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd
Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE) yn fenter Cymru-gyfan, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ar gyfer ymchwil i’r rhyngweithio rhwng tir, dŵr, darparu bwyd a chynhyrchu ynni. Mae’r rhwydwaith yn anelu’n benodol i integreiddio ymchwil ar raddfeydd gofodol gwahanol ac ar draws awyr-tir-dŵr, ac i wella’r gallu yng Nghymru am ymchwil i reoli adnoddau naturiol. 

Caroline Drummond
Caroline Drummond yw Prif Weithredwr Linking Environment and Farming (LEAF). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar hyrwyddo arferion ffermio mwy cynaliadwy a magu gwell dealltwriaeth o ffermio a’r amgylchedd ymhlith y cyhoedd.

Mae hi’n weithgar mewn sawl partneriaeth a menter ddiwydiannol ac mae ganddi brofiad eang yn datblygu, cynllunio a hyrwyddo Integrated Farm Management  [IMF] – sef model ffermio cynaliadwy – yn y Deyrnas Gyfunol ac yn ehangach yn yr Undeb Ewropeaidd.

Bu Caroline Drummond yn weithgar yn datblygu dulliau blaengar o ddangos i’r cyhoedd yn gyffredinol sut y caiff bwyd ei gynhyrchu ac o ble y daw, trwy gynlluniau megis ‘Open Farm Sunday’ ac ‘Open Farm School Days’ yn ogystal â thrwy’r prosiect ‘Let Nature Feed Your Senses’ sy’n dod â chymunedau wedi’u hymddieithrio yn agosach at ffermio, natur, a chefn gwlad trwy gyfrwng ymweliadau fferm.

Dyfarnwyd MBE iddi yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines (2009) am ei gwasanaeth i’r diwydiant amaethyddol ac mae ganddi hefyd Ddoethuriaeth yn y Gwyddorau honoris causa (Hon DSc) o Brifysgol Harper Adams, ac Ysgoloriaeth Nuffield a Chymrydoriaeth Anrhydeddus gan Gymdeithas yr Amgylchedd.

IBERS
Y mae Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig [IBERS] yn ganolfan addysgu ac ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol sy’n darparu sylfaen unigryw i ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang, megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cyflawni ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol, o waith ym maes genynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.

Y mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol gan y BBSRC i gynorthwyo ymchwil genhadol, hir-dymor, ac mae’n aelod o’r National Institutes of Bioscience. Mae IBERS hefyd yn elwa o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.

AU6514