‘Y Gymru a Fydd? Culture, Social Justice and the Wales that will Be’

Y Farwnes Kay Andrews

Y Farwnes Kay Andrews

27 Chwefror 2015

Bydd Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi, y Farwnes Kay Andrews, sy’n gyn-fyfyrwraig ac yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth, yn traddodi darlith gyhoeddus yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 6 Mawrth am 6:15 yr hwyr.

Teitl darlith y Farwnes Andrews fydd ‘Y Gymru a Fydd? Culture, Social Justice and the Wales that will Be’.

Yn 2013, yn fuan wedi iddi roi’r gorau i gadeiryddiaeth English Heritage, gwahoddwyd y Farwnes Andrews i ystyried ffyrdd o ddod â diwylliant a threftadaeth yng Nghymru ynghyd er mwyn iddynt chwarae rôl fwy o ran lleihau tlodi a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.

Pen llanw’r gwaith hwn oedd cyhoeddi ‘Diwylliant a Thlodi - Defnyddio’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i hybu cyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru’ ym mis Tachwedd 2014.

Yn ei darlith, bydd y Farwnes Andrews yn ystyried y gwerthoedd y galwodd arnynt wrth lunio’r adroddiad, a’r hyn y mae’n gobeithio y bydd yn ei gyflawni.

Bu Elizabeth (Kay) Andrews OBE, y Farwnes Andrews o Southover, yn Gadeirydd English Heritage rhwng 2009 a 2013.

Cyn hyn roedd yn Is-ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (2005-2009), ac yn Chwip y Llywodraeth ar Addysg ac Iechyd (2003-2005).

Cyn ei dyrchafu i Dŷ’r Arglwyddi yn 2000, roedd y Farwnes Andrews yn Gymrawd yr Uned Ymchwil Polisi Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Sussex (1968-1970), Clerc Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1970 a 1985, a Chynghorydd Polisi i Arweinydd yr Wrthblaid , Neil Kinnock o 1985 tan 1992.

Rhwng 1992 a 2002, roedd y Farwnes Andrews yn Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Education Extra, elusen genedlaethol ar gyfer dysgu a gweithgareddau tu allan i’r ysgol. Derbyniodd yr OBE yn 1998 am ei gwaith ym maes addysg ac fe’i cyflwynwyd fel Cymrawd Prifysgol Aberystwyth ym mis Gorffennaf 2014.

Mae wedi ysgrifennu llyfrau ac erthyglau ar hanes a threfniadaeth polisi gwyddoniaeth a thechnoleg, ar dlodi a pholisi cymdeithasol, ac ar addysg.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r Farwnes Andrews yn gyn-fyfyrwraig hynod nodedig ac yn gyfaill mawr i Brifysgol Aberystwyth. Mae'n bleser arbennig i’w chroesawu yn ôl i Aber ac rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn cymryd y cyfle i glywed siaradwr mor wych, mewn lleoliad sy'n cyd-fynd mor agos â themâu ei hadroddiad dylanwadol.”

Meddai Louise Jagger, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n anrhydedd i  Brifysgol Aberystwyth groesawu’r Farwnes Andrews i draddodi’r ddarlith bwysig hon yn yr Hen Goleg gan taw dyma safle y Brifysgol gyntaf yng Nghymru i’w hariannu gan arian cyhoeddus yng Nghymru, ac fel rhan o gynllun 'Bywyd Newydd brosiect Hen Goleg.

“Mae'n fater o gryn falchder ymhlith ein teulu o fyfyrwyr, staff, cefnogwyr a'r gymuned leol ehangach bod yr Hen Goleg wedi datblygu yn symbol mor eiconig o ysgolheictod, treftadaeth a diwylliant yng Nghymru, ac wedi gwneud cyfraniad mor sylweddol i gynhwysiad cymdeithasol a symudedd cymdeithasol o'r cychwyn cyntaf gyda chefnogaeth hanfodol o'r gymuned leol, glowyr a'u teuluoedd yn cyfrannu ceiniogau at gasgliadau capeli ac eglwysi am eu bod eisiau gweld Prifysgol yng Nghymru ac ar gyfer Cymru.

“Yn ogystal â bod yn un o'r sefydliadau cyntaf i dderbyn merched yn fyfyrwyr, rydym wedi parhau i arwain mentrau i ehangu mynediad a chyfranogiad mewn addysg uwch yng Nghymru.”

Cynhelir derbyniad diodydd o 5.30 y prynhawn a bydd y ddarlith yn dechrau am 6.15 yr hwyr yn yr Hen Neuadd, yr Hen Goleg, Aberystwyth.

AU8415