Cyswllt Aberystwyth-Corea newydd yn deullio o waith Cenhadwr o Gymru

Myfyrwyr o Ysgol Gristnogol Ryngwladol Corea Cymru a Chyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol, Rachael Davey

Myfyrwyr o Ysgol Gristnogol Ryngwladol Corea Cymru a Chyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol, Rachael Davey

17 Mawrth 2015

Yn ddiweddar, mae'r Ganolfan Saesneg Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth unigryw gydag Ysgol Gristnogol Corea Cymru ger Seoul.

Sefydlwyd yr ysgol hon sydd ag enw anarferol  yn 2008, ond mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Chorea yn dyddio'n ôl i 1866, pan fu’r cenhadwr o Gymro, Robert Jermain Thomas yn lledaenu’r ddysgeidiaeth Brotestannaidd yn Nwyrain Asia.

Tra bod Thomas wedi cael ei anghofio i raddau helaeth yn ei wlad enedigol, mae ei enw yn uchel ei barch yng Nghorea, a phob blwyddyn mae cannoedd o Goreiaid yn gwneud  y bererindod i gyn gartref Thomas ger y Fenni.

Y cysylltiad ysbrydol a ddenodd Daniel Sung i astudio yng Nghymru. Ar ôl iddo ddychwelyd i Dde Corea roedd yn benderfynol o gryfhau'r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl.

Wedi'i ysbrydoli gan ei gredoau Cristnogol a’i brofiad o addysg ym Mhrydain, sefydlodd Daniel Sung Ysgol Gristnogol Rhyngwladol Cymru Corea (KWICS) yn 2008 lle mae bellach yn Brifathro.

Yn ôl Daniel Sung, athroniaeth KWICS yw 'addysgu’r person cyfan', sy’n wahanol i'r ymagwedd addysgol nodweddiadol yng Nghorea, sydd yn ei ôl ef, yn credu mewn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr ar gyfer arholiadau mynediad prifysgol.

Yn ogystal â dysgu cwricwlwm academaidd lawn, mae KWICS yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn gwasanaeth cymunedol, teithio rhyngwladol a gweithgareddau artistig a cherddorol.

Gweledigaeth y Prifathro Sung yw datblygu disgyblion sydd yn gadael yr ysgol ac sy’n  meddu ar agwedd egwyddorol a byd-eang, ac awydd i gyfrannu at Gorea a chymdeithas Cymru.

Disgrifiad ei brofiad ei hun fel myfyriwr yng Nghymru oedd bod "y bobl yno yn gynnes, yn garedig ac yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol".

Heddiw, mae 12 o fyfyrwyr o ysgolion KWICS yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle maent yn dod o hyd i gartref oddi cartref, ac wedi integreiddio'n llwyddiannus yn y Brifysgol a'r gymuned leol.

Mae’r Prifathro Sung yn gobeithio gall ei fyfyrwyr "barhau i fynd i Gymru ar gyfer eu hastudiaethau a thra eu bod yno, efelychu gwaith y Cenhadwr o Gymro Robert Jermain Thomas drwy gefnogi a gwasanaethu'r gymuned leol".

I'r diben hwn, anfonodd ddau soddgrwth a dwy ffidil yn ddiweddar er mwyn i’w fyfyrwyr i'w chwarae yn Nghanolfan Fethodistaidd Sant Paul yn Aberystwyth, lle maent yn aelodau gweithredol o'r gynulleidfa.

Ymwelodd Rachael Davey, Cyfarwyddwr y Ganolfan Saesneg Ryngwladol, â KWICS ym mis Rhagfyr 2014 i ffurfioli'r bartneriaeth rhwng yr ysgol a Phrifysgol Aberystwyth drwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

Dywedodd; "Rydym yn falch iawn o’r ddolen hon gyda KWICS. Roeddwn yn llawn edmygedd o'r croeso cynnes a gefais yno, a chan yr ymdeimlad dwfn tuag at Gymru sy'n amlwg yn yr ysgol. Mae'r myfyrwyr sydd wedi dod i Aberystwyth o KWICS yn cyfrannu'n gadarnhaol iawn i’r gymuned academaidd ac yn ehangach, ac mae hi’n bleser gweithio gyda nhw. "

Mae staff a myfyrwyr KWICS yn cynllunio ymweliad ag Aberystwyth ym mis Mehefin, ac mae rhagor o fyfyrwyr o'r ysgol yn bwriadu dechrau ar eu haddysg brifysgol yn Aberystwyth yn 2015, gan gryfhau'r cysylltiad hanesyddol rhwng Cymru a Chorea ymhellach.

Y myfyrwyr Ysgol Gristnogol Ryngwladol Corea Cymru sy’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Hyemin Kang (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Juhwan Jeon (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Woorim Kang (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Yunseol Nam (BA Rheolaeth a Busnes 3edd Fl), Jihye Woo (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Yuna Bae (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Seunghwan Cho (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Hyosub Kim (BA Gwleidyddiaeth Ryngwladol 2il Fl), Yeajin Sung (BA Astudiaethau Ffilm &  Theledu, Blwyddyn 1af), Doohyun Lee (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol), Yunjoo Lee (Saesneg Targed), Nahyun Lee (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol) a Yeachan Hong (Tystysgrif Sylfaen Ryngwladol).

AU6315