Cyn-fyfyriwr ar restr fer ar gyfer Gwobrau Alumni EdUK 2015, yr UDA

Mitch Robinson

Mitch Robinson

18 Mawrth 2015

Mae Mitch Robinson, sy’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth, wedi ei  gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog gan y Cyngor Prydeinig.

Bydd Mitch, sydd wedi’i enwebu yng nghategori Cyrhaeddiad Proffesiynol Gwobrau Alumni  EdUK 2015, yn cael ei gydnabod am ei waith mewn Cinio Gala ysblennydd yn Efrog Newydd ar ddydd Sadwrn, 21 Mawrth.

Nod y gwobrau Addysg Alumni EdUK newydd, a grëwyd gan y Cyngor Prydeinig, yw cydnabod llwyddiant abennig  mewn Entrepreneuriaeth, Cyrhaeddiad Proffesiynol, ac Effaith Gymdeithasol gan bobl sydd wedi graddio o sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf.

Mae'r Wobr Cyrhaeddiad Proffesiynol yn cydnabod cyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill bri drwy arweinyddiaeth a chyrhaeddiadau arbennig yn eu diwydiant proffesiynol, ac sy'n gallu amlygu’r lefel uchaf o onestrwydd a chymeriad yn eu gyrfa broffesiynol.

Graddiodd Mitch gyda Meistr yn y Cyfreithiau (LL.M.) o Adran y Gyfraith a Throseddeg ym 2005, ac mae'n arbenigwr cyfraith ryngwladol yn achos y gosb eithaf 9/11 ym Mae Guantanamo.

Roedd gwaith Mitch yn allweddol wrth gael adroddiadau a chynseiliau arloesol ynghylch hawliau proses priodol ac adsefydlu dioddefwyr artaith gan y Cenhedloedd Unedig.

Wrth sôn am gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Mitch: "Mae bod ar restr fer y wobr hon yn glod aruthrol, a bydd hi’n anrhydedd cael mynd i’r Cinio Gala."

Gan gydnabod y cyfraniad mae ei addysg Prifysgol wedi gwneud i'w ddatblygiad personol a phroffesiynol, dywedodd Mitch: "Rhoddodd Prifysgol Aberystwyth rinweddau a sgiliau hanfodol i mi wynebu troseddau hawliau dynol yn Guantanamo: dadansoddi beirniadol, cywirdeb ysgolheigaidd manwl, ac ymwybyddiaeth o natur gymhleth y ddynoliaeth."

Yn ychwanegol at ei waith cyfreithiol, cyhoeddodd Mitch benodau cyntaf o'i nofel newydd, 22:10, nofel drosedd ryngwladol sy'n cynnwys "tref prifysgol dawel ar arfordir Cymru" lle mae'r prif gymeriad  yn ceisio unigedd.

Yn wreiddiol o Mississippi, mae Mitch bellach yn byw yn Arlington, Virginia, ar ôl treulio dros ddegawd yn byw yng Nghymru, Beijing, Genefa, Oslo a Chaeredin.

Wrth ei longyfarch ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein bodd bod yr hyn mae Mitch wedi ei gyflawni yn cael ei gydnabod a’i ddathlu ar y lefel uchaf. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad â Mitch fel aelod gweithgar o rwydwaith cyn-fyfyrwyr llwyddianus ac ymroddedig yn Washington DC, ers iddo raddio. Rydym yn ymfalchio’n fawr yn ei yrfa ac mae’n bleser go iawn teimlo’i frwdfrydedd dros Aberystwyth, a hynny fel Prifysgol a hefyd fel tref arbennig sydd yn agos at ei galon.”

AU10815