Nifer uchaf erioed o enwebiadau i'r Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr

Enillwyr Adran y Flwyddyn 2014, yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Enillwyr Adran y Flwyddyn 2014, yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear

21 Mawrth 2015

Mae’r nifer uchaf erioed o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno enwebiadau ar gyfer y pedwerydd Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol.

Mae'r Gwobrau, a gydlynir gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ac a gefnogir gan y Brifysgol, yn gwahodd myfyrwyr i gydnabod cyfraniad cyd gynrychiolwyr myfyrwyr a staff y Brifysgol drwy enwebu unigolion neu adrannau ar gyfer un o ddeg o wobrau.

Pan ddaeth y broses enwebu i ben am 5pm ar ddydd Gwener 20 Mawrth, roedd yna 1,113 o enwebiadau.

Wrth sôn am lwyddiant y Gwobrau, dywedodd Grace Burton, Swyddog Addysg yn Undeb y Myfyrwyr: "Fel Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi ein plesio’n fawr gan yr ymateb gwych i'r Gwobrau eleni. Mae'n codi calon rhywun i weld myfyrwyr yn cydnabod y staff ardderchog sy'n gwneud i’r amser a dreulir yma yn Aberystwyth, gan fyfyrwyr, yn wych. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gyflwyno enwebiad; rwy'n edrych ymlaen at ddarllen pob un ohonynt.

"Roedd y safon eleni yn eithriadol o uchel, a bydd y panel o feirniaid yn cael cryn waith i ddewis dim ond deg enillydd. Alla’ i ddim aros i ddathlu llwyddiannau cydweithwyr ar y noson. "

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol a Phrofiad Myfyrwyr: "Mae lefel y gefnogaeth ar gyfer ein cynrychiolwyr myfyrwyr a staff ardderchog yn wirioneddol anhygoel. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Undeb y Myfyrwyr am gydlynu’r hyn sydd wedi dod yn un o uchafbwyntiau yng nghalendr y Brifysgol, ac yn gyfle i gydnabod ymdrechion cydweithwyr, gan y rhai sydd fwyaf pwysig.

"Llongyfarchiadau i dîm Undeb y Myfyrwyr ar gyfer adeiladu ar lwyddiannau’r gwobrau diwethaf, ac am dderbyn bron i deirgwaith cymaint o enwebiadau a dderbyniwyd yn 2014, a chynnydd o dros fil ar y nifer a dderbyniwyd yn y flwyddyn gyntaf. Mae hyn yn arwydd o sut mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi staff academaidd a chefnogol yn Aber, a’r profiad myfyrwyr gwych sydd ar gael yma."

Bydd yr enwebiadau yn cael eu beirniadu gan banel o staff a myfyrwyr, gydag un enillydd yn ogystal ag unigolion â chymeradwyaeth uchel yn cael eu dewis ar gyfer pob categori.

Mae’r categorïau gwobrau yn cynnwys:

  • Gwobr Ddysgu Arbennig;
  • Cyfraniad Eithriadol at Fywyd yn y Brifysgol;
  • Staff Cynorthwyol y Flwyddyn;
  • Gwobr am Ragoriaeth yn Addysg Cyfrwng Cymraeg;
  • Gwobr Athro Ôl-raddedig;
  • Aelod Staff Newydd y Flwyddyn;
  • Tiwtor Personol y Flwyddyn;
  • Goruchwyliwr y Flwyddyn;
  • Cynrychiolydd Myfyriwr y Flwyddyn;
  • Adran y Flwyddyn.

 
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ar ddydd Gwener 24 Ebrill.

 

AU11115