Goroesi’r gwres ar gyfer cwrw da

Peint o gwrw

Peint o gwrw

16 Ebrill 2015

Mae ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn cydweithio â gwyddonwyr o Dijon yn Ffrainc, i geisio datrys y broblem blas cas mewn cwrw.

Mae bragwyr cwrw yn wynebu problem anodd. Mae lefel uchel o weithgarwch yn y burum a ddefnyddir i gynhyrchu cwrw yn creu llawer o wres yn ystod y broses, gan godi'r tymheredd ar waelod y cafnau bragu.

Yn anffodus mae’r burum yn dioddef difrod i'w strwythur yn aml ar y tymheredd uchel hwnnw, ac mae hyn yn rhoi blas cas i’r cwrw.

Cyhoeddwyd papur ymchwil gan y gwyddonwyr yn y cyfnodolyn Environmental Microbiology - ‘Surviving the heat: Heterogeneity of response in Saccharomyces cerevisiae provides insight into thermal damage to the membrane.’

Mae deall pam bod rhai celloedd burum yn goroesi mewn tymheredd ac eraill yn marw yn allweddol i wella prosesau megis bragu, a gyda dros 20 miliwn o beintiau o gwrw yn cael eu hyfed bob dydd yn y DG, mae hwn yn fater sy'n agos at galon y genedl.

Mae'r ymchwil yn dangos bod faint o fwyd sy’n cael ei roi i'r burum yn ystod amlygiad i dymereddau poeth yn allweddol i gadw'r burum yn iach.

Gan ddefnyddio dull gweithredu newydd ar gyfer y broblem yma -cytometreg llif - sy'n defnyddio technoleg laser i fesur celloedd yn awtomatig mewn hylif, dywedodd Dr Hazel Davey o IBERS: "Mae'r dechneg hon yn ein galluogi i astudio cannoedd o filoedd o gelloedd mewn ychydig eiliadau, gan ein galluogi i nodi celloedd burum a ddifrodwyd a gweithio allan pa amodau sydd yn gwella eu goroesiad.

Rydym yn dangos y gall difrod gael ei wrthdroi weithiau o dan yr amodau cywir. Mae ein straen labordy o furum yn adfer yn dda wrth roi maetholion iddo yn ystod yr amodau poeth, tra bod burum y bragwyr yn dangos gwell adferiad yn absenoldeb y maetholion.”

Mae ymchwilwyr yn defnyddio straen o furum sydd wedi addasu'n dda i’r labordy fel arfer ac yn rhoi iddynt bopeth sydd ei angen ar gyfer twf, ond yn y bragdy fe ddewisir straen ar gyfer blas ac effeithlonrwydd.

Mae'r gwaith ymchwil hwn yn amlygu'r ymateb gwahanol mewn straen labordy a diwydiannol o furum i bwysau gan wres a'r angen i astudio’r ddau. Bydd myfyriwr PhD yn parhau gyda’r ymchwil hwn o fis Medi eleni.

Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
IBERS yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.

Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil strategol o £10.5m gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae'n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a'r Undeb Ewropeaidd.

AU13615