Myfyriwr PhD a thiwtor o Aberystwyth yn ennill Gwobr M Wynn Thomas

Jamie Harris

Jamie Harris

06 Mai 2015

Dyfarnwyd gwobr Gwobr M. Wynn Thomas i Jamie Harris, myfyriwr PhD a thiwtor yn Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Prifysgol Aberystwyth, am ei draethawd 'Iain Sinclair "Born in South Wales, 2001"'.

Roedd Jamie’n fuddugol yn y categori 'Ysgolorion Newydd'.

Dyfarnwyd Gwobr M Wynn Thomas yn flynyddol ers 2012 i gydnabod ysgolheictod eithriadol yn yr astudiaeth o ysgrifennu yn y Saesneg yng Nghymru.

Trefnir y wobr gan Gymdeithas Llên Saesneg Cymru.

Mae'r traethawd i’w gyhoeddi yn y cyfnodolyn International Journal of Welsh Writing in English Vol.3 (2015).

Mae traethawd Jamie wedi ei seilio ar ymchwil a wnaeth ar gyfer ei draethawd PhD yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar ysgrifennu cyfoes cyfrwng Saesneg yng Nghymru ers refferendwm 1997 ar ddatganoli.

Dywedodd y panel beirniadu ei bod yn anodd iawn iddynt ddod i benderfyniad. Yr oeddent o’r farn bod gwaith yr enillydd yn dangos ysgolheictod eithriadol yn ogystal â'r parodrwydd i archwilio tir newydd.

Yn ddiweddar dyfarnwyd Cymrodoriaeth Traethawd Hir i Jamie gan Ganolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin, er mwyn ymweld ag archif Iain Sinclair a chynnal ymchwil pellach.

Dywedodd Jamie: “Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon. Mae'n fraint bod fy ngwaith yn cael ei gydnabod gan banel o feirniaid yr wyf yn eu parchu’n fawr iawn.

“Mae fy nhraethawd, "Iain Sinclair: 'Born in South Wales, 2001'", yn ymgais i adennill Sinclair o le cymharol ddinod mewn beirniadaeth Gymraeg a gosod ei waith o fewn cyd-destun cynhenid Cymreig (fel y mae fy nheitl yn dweud, 'cafodd ei eni yng Nghymru'). Mae hefyd yn cymryd i ystyriaeth farn hynod Sinclair o Lundain fel dinas Geltaidd, ac yn craffu ar y labelu arno fel awdur Saesneg / Cymraeg / Prydeinig.”

Mae Gwobr M Wynn Thomas yn cynnwys dwy wobr, yr un i ‘Ysgolorion Newydd’ a enillwyd gan Jamie, a’r category ‘Agored’, a enillwyd gan Dr Heather Williams, Cymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llên Saesneg Cymru, 'Y Wlad a'r Ddinas: Cymru Wledig a Threfol' a gynhaliwyd yn Neuadd Gregynog rhwng 27-29 Mawrth.

AU14915