Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ARMA

21 Mai 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Technoleg, Arloesedd a Chymhwyso yng Ngwobrau Cymdeithas Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil (ARMA) eleni.

Mae’r gwobrau AMRA yn dathlu arloesedd a llwyddiant wrth reoli a gweinyddu ymchwil, ac yn agored i’r holl sefydliadau addysg uwch yn y Deyrnas Gyfunol ac yn dathlu'r enghreifftiau gorau a llwyddiannau mewn saith categori, gan gynnwys; technoleg ac arloesi, effaith, a chydweithio o fewn Prifysgolion.

Daeth cydnabyddiaeth am y wobr hon yn sgil y Ffurflen Ddeallus Asesu Moeseg Ymchwil a Chymhwyso Ar-lein a lansiwyd yn ddiweddar; gan sicrhau bod gweithgareddau ymchwil ar draws y Brifysgol yn cyrraedd y safonau uchaf o foeseg ac uniondeb, tra'n lleihau'r baich gweinyddol ar ein cydweithwyr ymchwil. Mae hefyd wedi bod yn offeryn defnyddiol i ddatblygu sgiliau ymchwil ein staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

Wrth sôn am y lunio rhestr fer, meddai Gary Reed, Cyfarwyddwr Ymchwil, Busnes ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mewn amgylchedd ymchwil sy’n newid yn gyflym, mae'n hanfodol ein bod wedi ymrwymo i gynnal portffolio ymchwil y Brifysgol sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Agwedd bwysig o hyn yw sicrhau bod yr holl safonau moesegol a phroffesiynol o fewn ein cymuned ymchwil yn cael eu diwallu bob amser.

Rwy’ wrth fy modd bod ymdrechion cydweithwyr, Mitchell Parker & Dr Jennifer Deaville, o’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi ac Alan Evans o Gwasanaethau Gwybodaeth wedi cael eu cydnabod gan y Gwobrau. Rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw yng Nghynhadledd ARMA ym mis Mehefin! "

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu datgelu yng nghynhadledd flynyddol ARMA yn Brighton ar y 3ydd o Fehefin.