Pantycelyn

23 Mai 2015

Mae Pwyllgor Cyllid a Strategaeth Prifysgol Aberystwyth, yn ei gyfarfod ar ddydd Gwener 22 Mai, wedi cymeradwyo cynnig sy'n tanlinellu ymrwymiad y Brifysgol i'r Iaith a Diwylliant Cymraeg ac i ddarparu llety penodedig cyfrwng Cymraeg o fewn y Brifysgol.

Mae'r cynnig yn galw am gymryd y camau nesaf i adeiladu ar gyfraniad Gweithgor Pantycelyn, i ddatblygu cynigion manwl ar ddyfodol Pantycelyn, gan gymryd i ystyriaeth y galw am lety cyfrwng Cymraeg, blaenoriaethau'r Brifysgol ac argaeledd cyllid angenrheidiol, ac i wneud y gwaith hwn mewn ymgynghoriad llawn ag UMCA a chorff y myfyrwyr.

Mae'r cynnig yn tanlinellu'r penderfyniad i ddarparu cyfleusterau, mannau darlithio a chyfleusterau o'r safon uchaf ar draws y Brifysgol er mwyn darparu’r profiad myfyrwyr gorau posibl yn Aberystwyth. Er mwyn gwneud hyn ym Mhantycelyn a sicrhau ei fod yn addas at y diben, mae'n nodi y dylai Pantycelyn gau fel llety ar ddiwedd y tymor hwn.

Mae'r cynnig yn cynnwys ymrwymiad i Dîm Gweithredol y Brifysgol weithio gydag UMCA a chorff y myfyrwyr i wneud trefniadau amgen ar gyfer llety cyfrwng Cymraeg ar gampws Penglais o fis Medi 2015.

Mae'r cynnig yn cadarnhau argymhelliad a wnaed gan Dîm Gweithredol y Brifysgol y dylai gwasanaethau Cymraeg penodol symud i Bantycelyn i gynnal y cysylltiadau â gweithgareddau Cymraeg, a sicrhau bod Pantycelyn yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y gymuned Gymraeg.

Dywedodd Dr Tim Brain, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth: “Heddiw cawsom drafodaeth hir, trylwyr a chynhwysfawr ar ddyfodol Pantycelyn. Penderfynwyd argymell i Gyngor y Brifysgol y dylai’r neuadd gau fel preswylfa (am gyfnod sydd i'w benderfynu) ar ddiwedd y tymor hwn. Bydd yr adeilad, fodd bynnag, yn cael ei ddefnyddio gan Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg y Brifysgol, swyddfeydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r  tîm Cymraeg i Oedolion. Mae'r pwyllgor wedi argymell ymhellach y bydd astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr  yn cael ei gwneud a fydd yn adeiladu ar waith y Gweithgor. Rydym yn cydnabod ac yn deall y pryderon a godwyd gan y myfyrwyr sy’n byw yno a'u cynrychiolwyr. Cafodd eu safbwyntiau eu cynrychioli'n llawn yn y cyfarfod heddiw. Argymhellion yw'r rhain. Byddant yn cael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.”

AU16815