Pantycelyn

29 Mai 2015

Ymrwymiad

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg.

Mae’r Brifysgol yn deall ac yn gwbl ymroddedig i’r angen am gymuned lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy’n dysgu’r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau cymdeithasol y Geltaidd a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu.

Roedd sefydlu Pantycelyn fel neuadd breswyl ddynodedig Gymraeg yn 1974 yn garreg filltir allweddol o ran datblygu a hyrwyddo’r gymuned hon, ac mae wedi darparu cartref ardderchog ar ei chyfer dros 40 mlynedd.

Buddsoddi mewn llety

Dros y blynyddoedd mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn datblygu ei phortffolio o breswylfeydd myfyrwyr, ac yn ymateb i anghenion cyfnewidiol cenedlaethau newydd o fyfyrwyr.

Yn arbennig, mae Pentre Jane Morgan, Pentref Myfyrwyr y Brifysgol a adeiladwyd yn y 1990au cynnar yn, cynnig llety hunanarlwyo ar gyfer bron i 1000 o drigolion, a bydd ein datblygiad mwyaf newydd, Fferm Penglais, sydd bron wedi ei gwblhau gyda buddsoddiad o £45m, yn darparu 1000 o ystafelloedd ychwanegol sydd ymhlith y llety gorau a gynigir gan unrhyw brifysgol yn y Deyrnas Gyfunol.

Ar adeg llunio cynlluniau, y bwriad oedd mai Fferm Penglais fyddai’r cam nesaf mewn gwelliannau yn ei datblygiad portffolio preswyl, gan ddarparu llety yn lle’r hyn nad oedd yn cyrraedd y safonau yr oedd y Brifysgol yn dymuno ei gynnig, gan gynnwys llety sydd bellach wedi’i ddymchwel yng Nghanolfan Llanbadarn, a Phantycelyn.

Wrth symud i Fferm Penglais, byddai’r gymuned ym Mhantycelyn wedi mwynhau’r llety myfyrwyr gorau oedd gan Aberystwyth i’w gynnig, sef yr hyn a ddigwyddodd ym marn llawer pan ddynodwyd Pantycelyn yn neuadd cyfrwng Cymraeg nôl yn y 1970au cynnar.

Yn sgil y pryderon a leisiwyd gan UMCA a thrigolion Pantycelyn yn ystod diwedd 2013 a dechrau 2014, gwnaeth y Brifysgol oedi ac adolygu ei chynlluniau ar gyfer yr adeilad. Y canlyniad oedd cyhoeddi adroddiad gan Weithgor Pantycelyn a gafodd ei ystyried gan Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol ar 22 Mai 2015.

Yr angen i fuddsoddi ym Mhantycelyn

Mae dybryd angen ailwampio ac adnewyddu adeilad Pantycelyn. Mae’r llety a gynigir yn y neuadd fwy neu lai fel ag yr oedd pan yr agorwyd hi yn 1951.

Mae adroddiad Gweithgor Pantycelyn, grŵp oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o UMCA, yn amlinellu nifer o ddewisiadau ar gyfer ailddatblygu’r adeilad fel llety myfyrwyr ac fel Canolfan Iaith a Diwylliant Cymraeg.

Mae’r adroddiad yn amcangyfrif y bydd angen buddsoddiad cyfalaf o rhwng £5.5m ac £11m er mwyn ailddatblygu Pantycelyn.

Byddai ailddatblygiad llawn o’r adeilad, gan ystyried ei statws rhestredig (mae Pantycelyn yn adeilad rhestredig Gradd II), yn cymryd hyd at 3 blynedd i’w gwblhau, a byddai hyn ar ôl yr amser sydd ei angen i sicrhau cyllid a diffinio’r defnydd ohono.

Diogelwch Tân

Er mwyn parhau ar agor ar gyfer 2015/6 yn unig, mae adroddiad y Gweithgor yn nodi’r angen i wario £125,000 ar waith adfer trydanol a mesurau diogelwch tân.

Mae’r materion brys hyn yn ychwanegol at waith diogelwch tân helaethach ac ail-weirio trydanol llawn sydd angen eu cwblhau’n fuan ac sy’n cael eu hargymell mewn Arolwg Cyflwr a baratowyd gan gwmni peirianneg a dylunio sydd ag iddo enw da yn fyd-eang ac Arolwg Diogelwch Tân. Amcangyfrifir y bydd angen gwario £0.9m i gwblhau’r gwaith hwn.

Mae’r cyngor diogelwch tân a dderbyniwyd gan y Brifysgol yn ei gwneud yn glir na ellir derbyn unrhyw breswylwyr newydd dros nos i Bantycelyn hyd nes cwblheir y gwaith hwn (cyfanswm o £1m).

Mae dyletswydd gofal y Brifysgol yn golygu mai’r prif gonsýrn yw diogelwch trigolion. Mae’r Brifysgol yn awyddus i nodi, er gwaethaf ymdrechion y staff ac UMCA, cafwyd dros 50 o ddigwyddiadau difrifol o fandaliaeth o fesurau diogelwch tân yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf gyda 23 o’r digwyddiadau difrifol hynny wedi digwydd ers 15 Ebrill.

Mae’r rhain yn cynnwys 16 o ddigwyddiadau lle nodwyd fod y drysau tân sy’n hanfodol i ddiogelwch, yn anweithredol oherwydd fandaliaeth fwriadol.

Mae effaith y digwyddiadau hyn yn effeithio nid yn unig ar ddiogelwch a mwynhad y preswylwyr ond hefyd ar yr angen i wneud penderfyniadau rhesymol a chyfrifol am wariant tymor byr.

Nid yw’r £1 miliwn o waith brys yn cynnwys gwaith addurno, adnewyddu, ystafelloedd ymolchi neu ddrysau neu ffenestri newydd, dim ond gwelliannau diogelwch ac ailweirio. Roedd yr Arolwg Cyflwr hefyd yn egluro bod angen gwneud gwaith arall yn fuan, er enghraifft, ailosod ffenestri yn unol â statws rhestredig Pantycelyn a gwaith mawr i’r to. Mae’r gwaith hwn wedi ei gynnwys yn y costau ailddatblygu o £5.5 miliwn i £11m.

Cynnig i Gyngor y Brifysgol

Cafodd y materion hyn eu trafod gan Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ac UMCA, ar ddydd Gwener 22 Mai.

O ystyried ansawdd gwael y llety a’r dybryd angen am adnewyddu ac ailwampio’r adeilad, yr amcan gost ar gyfer gwaith sydd angen ei wneud yn syth os yw am barhau fel neuadd breswyl ar gyfer 2015/16, a’r angen am fuddsoddiad sylweddol i sicrhau dyfodol hirdymor yr adeilad, argymhelliad y Pwyllgor yw y dylai Pantycelyn gau ar ddiwedd y tymor hwn.

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi galw am wneud rhagor o waith, i adeiladu ar gyfraniad Gweithgor Pantycelyn, i ddatblygu cynigion manwl ar ddyfodol Pantycelyn, gan gymryd i ystyriaeth y galw am lety cyfrwng Cymraeg, blaenoriaethau’r Brifysgol ac argaeledd cyllid angenrheidiol, ac i wneud y gwaith hwn mewn ymgynghoriad llawn ag UMCA a chorff y myfyrwyr.

Mae’r Brifysgol, fel y nodwyd yn y Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2013-14, yn gweithio trwy gynllun adfer, sy’n golygu bod buddsoddiad cyfalaf wedi ei gyfyngu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Yn ogystal, nid yw’r arian cyfalaf sydd wedi ei glustnodi ac ar gael i brifysgolion yn Lloegr, bellach ar gael yng Nghymru.

Bydd yr argymhellion yma yn cael eu trafod gan Gyngor y Brifysgol pan fydd yn cyfarfod y tro nesaf, ar 22 Mehefin 2015.

Llety arall a mannau cymdeithasol

Yn y cyfamser, bydd y Brifysgol yn gweithio gydag UMCA a chorff y myfyrwyr i ystyried trefniadau amgen ar gyfer llety cyfrwng Cymraeg ar gampws Penglais, a fydd lle bo’n bosibl, yn ail-greu’r ddarpariaeth sydd ar gael ym Mhantycelyn.

Mae’r Brifysgol eisoes wedi cysylltu â darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol sydd wedi mynegi dymuniad i aros ym Mhantycelyn ar gyfer 2015/16, gan eu sicrhau y bydd llety arall yn cael ei ddarparu ar eu cyfer, pe na bai Pantycelyn ar gael.

Cynnal y cysylltiad

I gydnabod arwyddocâd Pantycelyn i siaradwyr Cymraeg dros y 40 mlynedd diwethaf, a’r awydd i sefydlu Canolfan Iaith a Diwylliant Cymraeg yno, cynigiwyd i Gyngor y Brifysgol fod rhai o wasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn symud i lawr gwaelod yr adeilad yn y tymor byr, a thrwy hynny sicrhau bod Pantycelyn yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y gymuned Gymraeg.

Y ffordd ymlaen

Mae’r Brifysgol yn cydnabod y sensitifrwydd o gwmpas yr argymhelliad i beidio â darparu llety ym Mhantycelyn ar ôl diwedd y tymor hwn.
Golyga’r angen i adnewyddu’r adeilad ei bod yn anochel y bydd angen i’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith fyw mewn cartref arall am nifer o flynyddoedd gan y byddai’r cynlluniau adnewyddu mwyaf cyfyngedig, yn unol â chynigion y Gweithgor, yn cymryd o leiaf dair blynedd ar ôl sicrhau’r cyllid. Ni fydd gwario £1m i fynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch brys yn sicrhau dyfodol hirdymor yr adeilad.

Mae’r Brifysgol yn croesawu mewnbwn ac awgrymiadau ar gyfer sut, gan weithio gydag UMCA, y gellir atgyfnerthu ac adeiladu’r gymuned Gymraeg, gan gofio y bydd angen i gymuned Pantycelyn, yn amodol ar benderfyniad y Cyngor, symud i lety dynodedig Cymraeg gyda mannau cymdeithasol arall. Anfonwch unrhyw awgrymiadau a syniadau i dyfodolpantycelyn@aber.ac.uk.

AU16815