Y Rhamantwyr Mesuredig: Prifysgol Aberystwyth yn rhan o ŵyl genedlaethol y dyniaethau

Mae’r Athro Reyer Zwiggelaar (yn y llun) a’r Athro Richard Marggraf Turley hefyd wedi cydweithio ar ymchwil i sut mae pobl yn ymateb i farddoniaeth ramantus drwy ddefnyddio camerau synhwyro gwres

Mae’r Athro Reyer Zwiggelaar (yn y llun) a’r Athro Richard Marggraf Turley hefyd wedi cydweithio ar ymchwil i sut mae pobl yn ymateb i farddoniaeth ramantus drwy ddefnyddio camerau synhwyro gwres

10 Mehefin 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad Y Rhamantwyr Mesuredig, fel rhan o Being Human 2015, unig ŵyl genedlaethol y Deyrnas Gyfunol i’r dyniaethau.

Mewn ymdrech i fesur a yw delweddau a nofelau arswyd Gothig 200-mlwydd-oed yn cyflymu’r galon, bydd cyfranogwyr yn eistedd mewn ardal dywyll i edrych ar luniau o baentiadau Gothig a thudalennau o nofelau Rhamantaidd tra bod pecyn o ddata biometrig yn cael ei gasglu (gan gynnwys cyfradd curiad y galon a thymheredd y croen) drwy ddefnyddio bandiau garddwrn.

Mae’r digwyddiad yn bosibl yn sgîl grant gan drefnwyr yr ŵyl, Ysgol Astudiaethau Uwch, Prifysgol Llundain.

Bellach yn ei hail flwyddyn, mae gŵyl Being Human yn cael ei chefnogi gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Academi Brydeinig (BA), gyda chefnogaeth gan y Wellcome Trust.

Yn dilyn cais llwyddiannus, dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Aberystwyth i gynnal y digwyddiad yn ystod wythnos yr ŵyl, 12-22 Tachwedd.

Bydd digwyddiad Y Rhamantwyr Mesuredig yn fodd o hyrwyddo rhagoriaeth yr ymchwil sy’n cael ei wneud yng nghanolbarth Cymru ym maes y dyniaethau a dangos pa mor fywiog a pherthnasol yw heddiw. Dyfarnwyd pedwar-deg-un o grantiau i brifysgolion a sefydliadau diwylliannol ar draws y DG i gymryd rhan yn Being Human.

Bydd y grant yn cynorthwyo’r Brifysgol i ddod ag ymchwilwyr a chymunedau lleol at ei gilydd ac i ymgysylltu â'r dyniaethau. Bydd Y Rhamantwyr Mesuredig yn rhan o raglen genedlaethol 11 diwrnod o syniadau mawr, dadleuon mawr a gweithgareddau deniadol ar gyfer pob oedran. Bydd yr ŵyl yn hysbysu, ymestyn ac yn tanio barn a dychymyg cyfoes o amgylch y dyniaethau.

Dywedodd Richard Marggraf Turley (Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol), Athro Ymgysylltu â Dychymyg y Cyhoedd, Prifysgol Aberystwyth: “Petai Mary Shelley, awdur Frankenstein, neu Dr Polidori, awdur nofel fampir gyntaf y byd, wedi gallu profi ymateb eu darllenwyr i’r 'arswyd' drwy ddefnyddio offer biometrig gwisgadwy, mae Reyer a minnau’n hoffi meddwl y byddent wedi gwneud hynny! Bydd y digwyddiad hwn yn dangos, mewn modd sy’n cyffroi’r galon, sut mae ymchwil yn y dyniaethau a gwyddoniaeth arloesol yn cyd-blethu”.

Dywedodd Reyer Zwiggelaar, Athro Cyfrifiadureg: “Mae'r celfyddydau wedi cyfrannu at wyddoniaeth a thechnoleg mewn ffyrdd arloesol ar hyd yr amser, ac mae'r digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd hwn yn gyfle perffaith i ddangos perthnasedd ymchwil rhyngddisgyblaethol prifysgol i’r byd go iawn.”

Yn ystod yr ŵyl gyntaf yn 2014 trefnodd 60 o brifysgolion a sefydliadau diwylliannol fwy na 160 o ddigwyddiadau am ddim a oedd yn rhannu'r syniadau gorau a mwyaf heriol yn y dyniaethau â chynulleidfaoedd ledled y wlad. Tu hwnt i’r ryngweithio wyneb yn wyneb yn y DG, mae’r ŵyl yn croesi ffiniau ar y we, gan gyrraedd mwy na 2.2 miliwn o bobl ledled y byd drwy Twitter a’r wefan.

Mae rhaglen yr ŵyl 2015 yn argoeli i fod yn un gyffrous, ddifyr a phryfoclyd, gyda rhywbeth i bawb yn ein cymunedau amrywiol.

AU18915