Iaith/Llais

12 Mehefin 2015

Bydd Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn cynnal symposiwm undydd yfory, dydd Sadwrn 13 Mehefin, 2015.

Trefnir y Symposiwm Iaith/Llais gan y Grŵp Ymchwil Cyfryngau Ffilm, a Theledu, gyda chefnogaeth Cyfnodlyn Arfer y Cyfryngau ac Arfer Rhwydwaith MeCCSA.

Bydd y Symposiwm yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn dod ag ymchwilwyr ac ymarferwyr at ei gilydd i drafod a dadlau materion cyfredol mewn ymchwil seiliedig ar ymarfer, arfer-fel-ymchwil, ac arfer gwybodus yn ddamcaniaethol.

Mae siaradwyr gwadd y Symposiwm yn cynnwys yr awdur arobryn, cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd, Ed Thomas, a’r gwneuthurwr rhaglenni dogfen arobryn Colin Thomas.

Meddai Dr Rebecca Edwards, un o gydlynwyr y Symposiwm: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cyfeillion o bob cwr o'r Deyrnas Gyfunol i'r Symposiwm, i gymryd rhan mewn deialog a gwrando ar y cyflwynwyr arbenigol. Nid yw Iaith a Llais i fod yn llythrennol wrth gwrs, ac rydym yn annog archwiliadau o thema’r symposiwm yn llythrennol ac yn ffurfiol– gan gwmpasu pob agwedd o’r proffesiwn."

Yn ogystal â'r cyflwyniadau, bydd gwaith creadigol artistiaid ac ymarferwyr hefyd yn cael eu harddangos.

Mae'r Symposiwm yn agored i bawb, a manylion am sut i gadw eich lle, a’r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael yn https://languagevoice.wordpress.com/