Pantycelyn

Pantycelyn

Pantycelyn

19 Mehefin 2015

Yn dilyn trafodaethau hir a dwys, mae Syr Emyr Jones Parry, Canghellor y Brifysgol a Chadeirydd y Cyngor wedi cytuno i gyflwyno cynnig sydd wedi ei gytuno ag UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, i gyfarfod y Cyngor ddydd Llun 22 Mehefin, sydd yn cynnig ffordd ymlaen ar ddyfodol Pantycelyn.

Mae’r testun yn atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i’r iaith Gymraeg a darpariaeth llety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn Aberystwyth, ac i broses i weithredu ei bwriad i ail agor Pantycelyn o fewn pedair blynedd i’r pwrpas hwn.

Mae’r Brifysgol gan gynnwys aelodau staff cyfrwng Cymraeg, UMCA ac Undeb y Myfyrwyr, yn croesawu’r datblygiad hwn ac yn edrych ymlaen at barhau gyda’r trafodaethau adeiladol ar ddyfodol Pantycelyn a darpariaeth llety cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

I ddarllen y cynnig, dilynwch y linc: Cynnig y Cadeirydd