Anrhydeddu'r Anrhydeddus Julia Gillard â Chymrodoriaeth

Yr Anrhydeddus Julia Gillard

Yr Anrhydeddus Julia Gillard

22 Mehefin 2015

Cyflwynir Cymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth i'r Anrhydeddus Julia Gillard, y 27ain o Brif Weinidogion Awstralia, ar 30 Mehefin 2015.

Bydd Ms Gillard yn traddodi darlith gyhoeddus “A Conversation with Julia Gillard:  Education and Our Future” yn Narlithfa A12 yn adeilad Hugh Owen, gan ddechrau am 6.30 yr hwyr.

Yn dilyn y ddarlith bydd Ms Gillard yn cael ei hurddo'n Gymrawd y Brifysgol, mewn cydnabyddiaeth o'i chyfraniad sylweddol at fywyd cyhoeddus.

Rhoddir Cymrodoriaethau er Anrhydedd er mwyn anrhydeddu unigolion sydd â chyswllt ag Aberystwyth neu â Chymru yn gyffredinol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu maes.

Dywedodd yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae'n bleser gennyf groesawu Julia Gillard i Aberystwyth, i'r Brifysgol, ac i'n cymuned nodedig o Gymrodorion. Edrychaf ymlaen at glywed am ei phrofiadau a'i llwyddiannau fel Prif Weinidog Awstralia, ac anogaf bawb sydd â diddordeb yn nhirwedd gwleidyddiaeth fyd-eang byd ac yn nyfodol addysg i ddod i'r digwyddiad hwn.”

Ganed Ms Gillard yn y Barri ym Morgannwg ac fe ddaeth yn Brif Weinidog Awstralia, y seithfed ar hugain yn hanes y wlad honno, ar 24 Mehefin 2010, gan wasanaethu yn y swydd honno tan Fehefin 2013.

A hithau'n Brif Weinidog, ac yn Ddirprwy Brif Weinidog cyn hynny, roedd Ms Gillard yn chwarae rhan ganolog wrth reoli economi Awstralia yn llwyddiannus - y 12fed economi yn y byd o ran maint - a hynny yn ystod yr Argyfwng Ariannol Byd-eang, wrth i Awstralia ei rhoi ei hun mewn sefyllfa i elwa ar dwf Asia. Ms Gillard a ddatblygodd bapur polisi arweiniol Awstralia, sef Australia in the Asian Century. 

Cyflawnodd Ms Gillard bolisïau a drawsnewidiodd ei gwlad, gan gynnwys diwygio addysg Awstralia ar bob lefel o'r blynyddoedd cynnar i addysg prifysgolion, creu cynllun masnachu allyriannau, gwella darpariaeth a chynaliadwyedd eu gofal iechyd a deintyddol a'u gofal i'w henoed, dechrau cynllun cenedlaethol cyntaf erioed y wlad honno ar gyfer gofalu am bobl ag anableddau, ac aildrefnu'r sector telegyfathrebu yn ogystal ag adeiladu rhwydwaith band-eang cenedlaethol.

O ran polisi tramor, atgyfnerthodd Ms Gillard berthynas Awstralia â'r Unol Daleithiau, cryfhau adeiladwaith y cyswllt â Tsieina, diweddaru cyswllt Awstralia ag India, a meithrin cysylltiadau cryfach â Siapan, Indonesia a De Corea. Cynrychiolodd Ms Gillard Awstralia yng nghynhadledd yr G20, gan lwyddo i gael y cyfarfod yn 2014 yn Awstralia, yn ogystal â chynrychioli ei gwlad yn Uwchgynhadledd Dwyrain Asia, APEC, NATO-ISAF, a chadeirio CHOGM.  O dan arweinyddiaeth Ms Gillard etholwyd Awstralia i wasanaethu ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.  

Ms Gillard yw'r fenyw gyntaf i fod yn Brif Weinidog neu'n Ddirprwy Brif Weinidog yn Awstralia. Ym mis Hydref 2012, denodd Ms Gillard sylw o bedwar ban byd am ei haraith yn y Senedd am y driniaeth y mae menywod yn ei chael yn y bywyd proffesiynol a chyhoeddus.

Mae Ms Gillard yn Gymrawd Arbennig y Ganolfan Addysg Gyffredinol yn Sefydliad Brookings, Washington. Ym mis Chwefror 2014, penodwyd Ms Gillard yn gadeirydd ar y Bartneriaeth Fyd-eang dros Addysg, corff arweiniol sy'n ymroddedig i agor drysau'n ehangach i addysg ac i sicrhau addysg o safon drwy'r byd i gyd. 

Yn Chwefror 2015, penodwyd Ms Gillard yn Ganghellor Dūcere, sef prif ddarparwr addysg Awstralia ar gyfer cyrsiau busnes a rheolaeth, o lefelau Diploma hyd at safon MBA, gan gynnwys un rhaglen MBA a oedd y gyntaf o'i math yn y byd. Mae Ms Gillard yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Adelaide, ac yn Noddwr i Lyfrgell Brif-Weinidogol John Curtin yn Perth, Gorllewin Awstralia. Mae Ms Gillard hefyd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr Beyond Blue, corff sy'n ymroddedig i helpu pobl Awstralia i ddeall a rheoli pryder ac iselder.  

Cyhoeddwyd hunangofiant Ms Gillard, My Story, gan Random House ym mis Medi 2014.

Bydd y ddarlith hon a chyflwyniad y Gymrodoriaeth ar agor i'r cyhoedd, ac fe fydd derbyniad diodydd cyn y digwyddiad. Mae'r Brifysgol yn estyn croeso cynnes i'r myfyrwyr, y staff ac i'n chyfeillion yn y gymuned ac edrychwn ymlaen at weld llawer o bobl yno. Gofynnwn i aelodau o'r cyhoedd sydd am ddod archebu eu lle ar-lein yn rhad ac am ddim yn: http://www.aber.ac.uk/cy/events/lectures/julia-gillard/booking/  

AU20915