Cyflwyno Gradd Baglor er Anrhydedd i Rhian Phillips, Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru

Rhian Phillips

Rhian Phillips

15 Gorffennaf 2015

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth i Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug, heddiw, ddydd Mercher 15 Gorffennaf.

Fel Cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug, mae gan Rhian Phillips hanes hir o ymrwymiad i addysg gynradd yn ardal Aberystwyth ac mae’n angerddol dros ddarparu addysg o safon ragorol i ddisgyblion, drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu yn y dosbarth a thu hwnt. 

Fel un a fu’n dadlau dros ddimensiwn byd-eang mewn addysg, cafodd ei phenodi yn Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru gan y Cyngor Prydeinig, ac mae wedi teithio yn helaeth ar draws Ewrop gan gyflwyno mewn cynadleddau a seminarau yn hyrwyddo Dinasyddiaeth a Dysgu Byd-eang.

Cyflwynwyd Rhian Phillips gyda gradd Baglor er anrhydedd ar ddydd Mercher 15 Gorffennaf gan Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor.

Cyflwyniad Rhian Phillips gyda gradd Baglor er Anrhydedd

Trysorydd, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion. 

Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Mrs Rhian Phillips am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth.

Treasurer, Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters. 

It is an honour and a privilege to present Mrs Rhian Phillips for an Honorary Bachelor Degree of Arts of Aberystwyth University.

Rhian Phillips personifies the Aberystwyth drive for excellence in education with an International outlook.

Rhian is an alumnus of Gwendraeth Grammar School, and received her formal teaching qualifications at the then Cardiff College of Education. 

She is an enthusiastic, committed and hardworking education practitioner with thirty three years teaching experience in the primary sector. She was the Headteacher of Plascrug Primary School in Aberystwyth from 2008 to 2014 and prior to becoming the Headteacher at Plascrug she served as Deptuy Head teacher,  Class teacher at Plascrug School, Class Teacher at Llanafan Village School here in Ceredigion,  Class Teacher at Penparcau Junior School, and started her career as Reception class teacher for Ysgol Iolo Morganwg, Cowbridge.

Throughout her career she has strived to achieve excellence and is a firm believer in learning something new every day, and her work to deliver an outstand in experience can be seen through her active roles in the education community both within Wales and Internationally.

She achieved Full Team Inspector status for ESTYN (the Welsh Schools Inspectorate Body) and is an Estyn Stakeholders Forum Member. 

One of the aspects of her work which has had the greatest impact within the Aberystwyth community is her focus on International and Multicultural Education in the Primary sector, including her outstanding work as a British Council International Schools Ambassador. 

Under her leadership Plascrug came to be seen as a place for other Schools and policy makers to learn from, and case studies from the school are shared across Wales and the world.

Rhian’s excellent communication skills means she relates well to persons of all ages, gender, race and creed.  She is passionate about delivering high quality learning experiences and Aberystwyth University is proud to recognise her contribution to making our Town known as a place for an exceptional, and international, education. 

Trysorydd, mae’n bleser gen i gyflwyno Mrs Rhian Phillips i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Celfyddydau.

Treasurer, it is my absolute pleasure to present Mrs Rhian Phillips to you for an Honorary Bachelor Degree of Arts.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Debbie Moon, Awdur arobryn BAFTA y gyfres deledu WolfBlood, cyfrannwr i gyfres Y Gwyll a chyn-fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

AU19715