Urddo enillydd gwobr BAFTA Debbie Moon yn Gymrawd

Debbie Moon, Cymrawd

Debbie Moon, Cymrawd

17 Gorffennaf 2015

Urddwyd yr awdur teledu arobryn, Debbie Moon, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Yn gyn-fyfyrwraig o Adran Ddrama Prifysgol Aberystwyth, Debbie Moon yw awdur WolfBlood, cyfres deledu i blant arobryn BAFTA sydd bellach yn ei drydydd gyfres.

Mae Debbie hefyd wedi cyfrannu tuag at y gyfres Y Gwyll, sydd wedi ei lloli yn Aberystwyth, ac mae’n parhau i gynnal cysylltiadau cryf gyda Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r Brifysgol ehangach.

Cyflwynwyd Debbie Moon yn Gymrawd ar ddydd Gwener 17 Gorffennaf gan Dr Jamie Medhurst, Uwch Ddarlithydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu.

Cyflwyniad Debbie Moon yn Gymrawd

Canghellor, Is-Ganghellor, Darpar-Raddedigion a Chyfeillion. Mae’n bleser o’r mwyaf cael cyflwyno'r awdures a’r sgriptwraig Debbie Moon, i’w hurddo yn Gymrawd yn y Brifysgol hon. Chancellor, Vice-Chancellor, Graduands and Friends. It's a great pleasure to present the author and scriptwriter Debbie Moon, as a Fellow of this University.

Debbie, according to the 140-character max description on her Twitter account is a ‘BAFTA-winning TV and film writer. Creator of award-winning fantasy series Wolfblood (more of that anon) Walker of hills, friend of cats and (and this is the one I can relate to) consumer of tea and cake’.

Debbie's relationship with this University - and specifically with the Department of Theatre, Film and Television Studies - stretches back to 1990, when she studied Drama here. After graduating in 1993, Debbie intended to be a director, but she had begun writing short stories, which found success both in Britain and America. Since then, Debbie has had over fifty stories published and her first novel, Falling (published by Honno Press), was long-listed for Welsh Book of the Year. Shortly after graduating, Debbie also became involved in writing for radio and through a BBC mentoring scheme, worked with Ruth Jones (best known, perhaps as Nessa in Gavin and Stacey) on developing and writing a radio play.

For television, she has written for CBBC’s The Sparticle Mystery and for the highly successful and locally-filmed Y Gwyll/Hinterland. Perhaps she is best-known as the creator and lead writer of CBBC's hit fantasy drama series Wolfblood, which premiered in 2011 and which will go into its fourth season next year. It is for Wolfblood that Debbie won the Royal Television Society Best Children’s Drama Award in 2012 and her 2014 BAFTA Writer award. Wolf Blood has become an international success story and has been sold to Disney. On the inspiration behind the series, Debbie has written this: ‘Wolfblood was inspired by a shelf of second-hand books. Which just goes to prove that writers can get inspiration from pretty much anything. I was standing in a charity shop, browsing the books, when my brain somehow read half of one title and half of the one next to it, producing a new title – Wolfblood. “Interesting,” I thought. “What’s a Wolfblood?” And thirty seconds later, I was dashing out of the shop to buy a notebook and pen and start scribbling…’ Such has been the success of the series that you may now purchase Wolfblood pyjamas on Amazon (other online retailers available….)

Debbie has several feature scripts and television series currently in development and has also written comic books and audio adventure CDs and has had work broadcast on Radio 4. It was also announced last month that Debbie had been nominated to the panel of judges for the first ever UK International Veterans Film Festival. At the outset I described Debbie as an author and scriptwriter, but she is also an avid science fiction fan and has a penchant for films involving fast cars and swordfights. I have it on good authority that she is also an accomplished hamster whisperer.

But it is not for this impressive skill that we are honouring Debbie today. It is for her international success and for her nurturing and encouragement of new writing talent, be that through the work that she has undertaken with students on our scriptwriting courses or by supporting a wider audience through her use of social media. We are, as a department and University, rightfully proud of Debbie’s achievements.

Parchus Ganghellor, mae’n fraint ac yn bleser o'r mwyaf gennyf gyflwyno i chi Debbie Moon, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2015

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu deuddeg o bobl yn ystod seremonïau Graddio 2015 sy’n cael eu cynnal dros bedwar diwrnod, rhwng dydd Mawrth 14 a dydd Gwener 17 Gorffennaf, yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Caiff wyth Cymrodoriaeth Er Anrhydedd eu cyflwyno i unigolion sydd â, neu wedi bod â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu dewis feysydd.

Cyflwynir dwy radd Doethuriaeth Er Anrhydedd i unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor Er Anrhydedd i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth sydd heb ennill gradd lefel mynediad, i gydnabod gwasanaeth hir, cyfraniad ac ymroddiad i’r Sefydliad; ac aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r ardal.

Hefyd yn cael eu hanrhydeddu mae:

Cymrodoriaethau Er Anrhydedd:

•        Eurwen Richards, cyn Llywydd y Gymdeithas Technoleg Llaeth a’r Meistr Caws benywaidd gyntaf yn y DG.

•        Yr Athro Robin Williams CBE, ymchwilydd mewn ffiseg lled-ddargludyddion, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol a cyn Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe.

•        Yr Athro Miguel Alario-Franco, ymchwilydd mewn cemeg cyflwr soled a cyn Llywydd Academi Frenhinol y Gwyddorau Sbaen.

•        Yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, Is-Ysgrifennydd Seneddol ar gyfer yr Adran Ynni a Newid yn yr Hinsawdd a Swyddfa Cymru a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Dr Francesca Rhydderch, nofelydd arobryn, cyn-olygydd y New Welsh Review ac Athro Cysylltiol mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.

•        Dr Lyn Evans, ymchwilydd mewn ffiseg egni uchel ac arweinydd y tîm fu’n gyfrifol am gynllunio, adeiladu a chomisiynu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr.

•        Iolo Williams, cyflwynydd dros 20 o gyfresi natur i’r BBC a S4C yn cynnwys Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch, a cyn swyddog rhywogaethau'r RSPB dros Gymru.

Graddau Doethur Er Anrhydedd:

•        Dylan Iorwerth, bardd ac awdur arobryn, cyflwynydd teledu a radio, sylfaenydd a Golygydd Gyfarwyddwr Golwg Cyf a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

•        Yr Athro Huw Cathan Davies OBE, Cymrawd y Gymdeithas Feteoroleg Frenhinol, cyn ymchwilydd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol yn NASA yn Virginia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.

Graddau Baglor Er Anrhydedd:

•        Bryn Jones, cydlynydd Fforwm Cymunedol Penparcau ac un o sylfaenwyr y grŵp celfyddydau a gofal iechyd lleol, HAUL.

•        Rhian Phillips, cyn-Bennaeth Ysgol Gynradd Plascrug a Llysgennad Dysgu Ysgolion Rhyngwladol dros Gymru.

AU19715