Cymrodoriaeth Leverhulme i fapio a rhagweld tywydd y gofod

Roedd Dr Huw Morgan (canol) yn aelod blaenllaw o dîm rhyngwladol fu’n astudio clip haul 2015.

Roedd Dr Huw Morgan (canol) yn aelod blaenllaw o dîm rhyngwladol fu’n astudio clip haul 2015.

27 Gorffennaf 2015

Mae Dr Huw Morgan o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn Cymrodoriaeth Ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i fapio a rhagweld tywydd y gofod.

Bwriad y prosiect yw datblygu system mapio 3-D awtomataidd i ganfod a lleoli Chwistrelliadau Màs Coronaidd (CMEs) - ffrwydradau solar sydd yn rhyngweithio gyda magnetosffer y ddaear. 

O dan amodau penodol, mae’r ffrwydradau solar hyn yn ddigon pwerus i ymyrryd gyda seilwaith dynol megis lloerennau, gan amharu ar systemau cyfathrebu ar y ddaear.  Mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu bod CMEs hefyd yn effeithio ar hinsawdd y ddaear. 

Bydd gwelliannau mewn canfod CMEs yn galluogi adnabod a rhagweld ffrwydradau solar sydd yn agosáu at y ddaear, gan ddarparu mwy o rybudd a gwell ddealltwriaeth o’r effeithiau.

Yn ogystal, bydd y prosiect yn darganfod gwybodaeth am strwythur 3-D gwynt solar sydd yn ffurfio rhanbarthau rhyngweithio llif (SIRs) o ganlyniad i lif cyflym yn cronni y tu ôl i lif araf. Bydd hyn yn galluogi rhagweld SIRs sydd yn agosáu at y ddaear a gwell ddealltwriaeth o CMEs.

Dywedodd Dr Morgan:  “Mae Cymrodoriaeth Leverhulme yn gyfle gwych i fi ganolbwyntio ar sawl agwedd o fy ngwaith ymchwil.  Rwy’n bwriadu datblygu a chymhwyso sawl dull dadansoddi newydd o arsylwadau coronaidd, gan ddarparu gwybodaeth newydd gwerthfawr ar y gwynt gofod a Chwistrelliadau Màs Coronaidd.  Mae’r Gymrodoriaeth yn darparu’r amser ymchwil angenrheidiol i gyflawni hyn yn gyflym, gan alluogi ymchwil y Grŵp Ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul i fod yn gystadleuol ar lefel ryngwladol.”

Mae’r Ymddiriedolaeth Leverhulme yn ariannu gwaith academaidd traws-ddisgyblaeth yn y DG, ac yn darparu costau ymchwil a byw i ymchwilwyr talentog a phrofiadol sydd yn ymgymryd â gwaith o bwysigrwydd yn ei maes.

Dr Huw Morgan
Mae gan Dr Morgan brofiad ymchwil sylweddol ym maes ffiseg solar, yn enwedig spectrosgopeg solar coronau.  Ar ôl cwblhau ei ddoethuriaeth ar y pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2005, gweithiodd fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Seryddiaeth Prifysgol Hawaii. 

Yn ddiweddar cafodd ei ddyrchafu’n Ddarllenydd ac mae wedi bod yn ddarlithydd cyfrwng Cymraeg yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth ers pedair blynedd, gan gyfrannu tuag at nifer o fodylau seryddiaeth, prosiectau blwyddyn olaf, a datblygiad amrediad eang o fodylau cyfrwng Cymraeg.

Mae Dr Morgan yn eiriolwr brwd o ymgysylltiad cyhoeddus mewn Seryddiaeth ac roedd yn aelod blaenllaw o dîm rhyngwladol fu’n astudio clip haul 2015.

Ymddiriedolaeth Leverhulme
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Leverhulme gan Ewyllys William Hesketh Lever, sylfaenydd Lever Brothers. Ers 1925 mae'r Ymddiriedolaeth wedi darparu grantiau ac ysgoloriaethau ar gyfer ymchwil ac addysg. Heddiw, mae'n un o'r darparwyr cyllid ymchwil i bob maes mwyaf yn y DG, ac yn dosbarthu tua £80m y flwyddyn. Am fwy o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth, ewch i www.leverhulme.ac.uk.