Dydd Mawrth ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod

04 Awst 2015

Heddiw ar stondin Prifysgol Aberystwyth gellir clywed sgwrs gyda’r artist Ruth Jên a bydd myfyrwyr ac aelodau staff y Brifysgol yn herio ei gilydd mewn cwis.

11.00yb
Gwlân
Am 11.00yb ar ddydd Mawrth bydd cyfle i glywed yr artist o Geredigion, Ruth Jên yn trafod ei gwaith gyda’r darlledwr Dei Tomos.

Yn ddiweddar mae Ruth, sydd newydd gwblhau gradd MA yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn canolbwyntio ar draddodiadau cneifio ar ffermydd mynydd yng ngogledd Ceredigion.

Bydd ffilm 5 munud o’i gwaith sy’n canolbwyntio ar symudiadau’r cneifiwr wrth gneifio, i’w gweld ar stondin Prifysgol Aberystwyth drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

I gael gwybod mwy, cliciwch yma.

3.00yp
Her y Brifysgol
Her y Brifysgol Cwis hwyliog rhwng staff a myfyrwyr y Brifysgol dan ofal y cwisfeistr ar hanesydd Dr Russell Davies.

Am raglen lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau 2015 cliciwch yma.

AU21815