Dydd Gwener ar stodin y Brifysgol yn yr Eisteddfod

07 Awst 2015

Ar stondin Prifysgol Aberystwyth heddiw, bydd Osian Elias yn rhoi Darlith Flynyddol E G Bowen ar bwnc ymddygiad a chynllunio iaith, cynhelir trafodaeth ar y berthynas rhwng gwleidyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg, a bydd cyfle i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol ymgasglu am aduniad ganol haf.

12.00yh
Darlith flynyddol E G Bowen
Newid Ymddygiad Ieithyddol

Agorir digwyddiadau dydd Gwener ar stondin y Brifysgol am 12.00yp, pan fydd Osian Elias o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol yn traddodi darlith flynyddol EG Bowen.  Bydd darlith Osian yn cyfeirio at ei ymchwil doethurol ar ymddygiad a chynllunio iaith, gan ganolbwyntio ar ymddygiad ieithyddol pobl ifanc.

2.00yh
I’w cadw ar wahân? Cerddoriaeth a Gwleidyddiaeth
Am 2.00yh dewch i glywed staff a chyn-fyfyrwyr yn trafod a yw cerddoriaeth Gymreig fodern wedi colli cyswllt gyda daliadau gwleidyddol ac ysbryd protestio’r gorffennol.

3.30yh
Aduniad Ganol Haf UMCA
Cynhelir Aduniad Ganol Haf UMCA am 3.30yh i fyfyrwyr gael cyfle i ddal fyny gyda ffrindiau a thrafod hynt a helynt gwyliau’r haf.

4.30yh
Seremoni’r Cadeirio
I gloi’r wythnos ar y stondin, dewch i fwynhau paned o de neu goffi am 4.30yh, wrth wylio seremoni’r Cadeirio ar y sgrin fawr.

Am raglen lawn o ddigwyddiadau ar stondin Prifysgol Aberystwyth yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod a’r Gororau 2015 cliciwch yma.

AU21815