Dr Hywel Griffiths yn cipio Cadair Maldwyn

Dr Hywel Griffiths

Dr Hywel Griffiths

07 Awst 2015

Dr Hywel Griffiths, darlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.

Daw llwyddiant Hywel wyth mlynedd wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Mae hefyd wedi ennill dwy gadair yn Eisteddfod yr Urdd.

‘Gwe’ oedd testun cystadleuaeth y Gadair eleni, ac yn ôl un o’r beirniaid, y Prifardd Mererid Hopwood, sydd hefyd yn raddedig o Aberystwyth, roedd Hywel “yn llawn haeddu’r gadair.”

“O’r cychwyn, sylweddolwn ein bod yng nghwmni bardd sy’n gweld ymhell ac yn gwrando’n astud: ‘Clywaf ei lais yn crafu/ewinedd dweud ar fwrdd du’”, dywedodd.

Yn ei awdl mae Hywel yn trafod rhyfel, Rhyfel Cartref Sbaen a’r gwrthdaro yn Gaza.

Ychwanega Mererid; "Mae'n pendilio rhwng y presennol a'r gorffennol gan ddechrau mewn ward ysbyty yng Nghymru eleni, lle mae henwr ar ei wely angau'n cofio nôl i Ryfel Cartref Sbaen a'r cydymdeimlad brawdol a ddenodd gymaint o Gymry i fynd i ymladd yn erbyn Ffasgaeth.

"Ond nid cofio un gyflafan yn unig a wna Ceulan. Drwy'r we fyd-eang, mae'n clicio dolenni a chyrraedd Gaza lle mae 'Lladd ar y Llain!♯C'wilydd! Celain!', ac yna'n gynnil grefftus, heb ochri, defnyddia hanes y Gododdin i'n hatgoffa mai lladd yw canlyniad pob rhyfel. Mae'n clywed 'corws cras eco'r oesoedd', ac mae'r bechgyn 'trwy'r bore fel trwy beiriant yn martsio'. Yna'n ysgytwol dywed am ryfel yn troi 'fesul llanc, /flodau haf yn flawd ifanc'.

"Cyn diwedd y gerdd dychwelwn i Sbaen gyfoes, lle mae ymgais ddiweddar i roi beddau newydd i filwyr dwy ochr Y Rhyfel Cartref wedi codi'r hen atgofion rhanedig. Ac mae peryglon gwasgu pethau i gefn y cof yn thema bwysig arall ganddo: 'O roi'r cof dan glawr cyfyd / yr anghofio'n gofio i gyd', meddai. Yna wrth i'r henwr farw, mae'r bardd yn canu 'i deipio dur/ a chreu rhan fach o'r hen fur' - y mur anweledig sydd ynom ni yn cynnal ein brawdoliaeth.

Graddiodd Hywel mewn Daearyddiaeth a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae bellach yn ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac yn arbenigo mewn geomorffoleg afonydd.

Wrth longyfarch Hywel, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae pawb yn falch iawn o lwyddiant Hywel, ac yntau bellach wedi ennill y ddwy brif gystadleuaeth farddol.  Ac eleni hefyd dyfarnwyd i Hywel Wobr Goffa Eilir Hedd Morgan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei gyflawniadau fel gwyddonydd ifanc cyfrwng Cymraeg.  Rydym yn ffodus i'w gael yn gydweithiwr.”

Golyga llwyddiant Hywel fod tri o raddedigion Aberystwyth wedi cipio tair o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ddydd Llun coronwyd Manon Rhys am gasgliad o gerddi ar y thema “Breuddwyd”, a dydd Mawrth cipiwyd Gwobr Goffa Daniel Owen gan Mari Lisa am ei nofel Veritas.

Graddiodd Manon Rhys yn y Gymraeg yn Aberystwyth, a Mari Lisa mewn Cymraeg a Drama.

AU26515