Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu ei myfyrwyr cyntaf

Aelodau staff Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth

Aelodau staff Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth

26 Hydref 2015

Mae Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu ei myfyrwyr cyntaf, wrth i’r dysgu ddechrau.

Mae Campws Cangen Mawrisiws yn cynnig cyrsiau israddedig mewn Cyfrifiadureg, Busnes, Cyfrifeg a Chyllid, a'r Gyfraith, a gradd Meistr ôl-raddedig mewn Busnes Rhyngwladol.

Cafodd pob cwrs wedi cael ei achredu gan Gomisiwn Addysg Drydyddol Mawrisiws.

Mae myfyrwyr ar gampws Mawrisiws y Brifysgol yn mwynhau’r un statws â'u cymheiriaid yn Aberystwyth ac yn derbyn graddau Prifysgol Aberystwyth wedi iddynt gwblhau eu hastudiaethau.

Bydd cyfle hefyd yn y dyfodol i fyfyrwyr sydd yn astudio yn Aberystwyth, ac sydd yn dymuno treulio amser ar gampws Mawrisiws, i wneud hynny.

Drwy sefydlu campws cangen ym Mawrisiws, Prifysgol Aberystwyth yw’r brifysgol dramor uchaf ei safle tramor i weithredu yn y wlad.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro April McMahon: “Mae gan Lywodraeth y Mawrisiws gynlluniau uchelgeisiol i sefydlu'r wlad fel canolbwynt gwybodaeth ryngwladol ac i ddenu 100,000 o fyfyrwyr i astudio yno dros y 10 mlynedd nesaf. Ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn falch iawn o fod yn chwarae ein rhan i wireddu'r weledigaeth hon.”

"Mae'r datblygiad hwn yn cyd-fynd â'n hamcanion strategol o ‘Greu cyfleoedd’ a ‘Meithrin ein cysylltiadau â’r byd’ drwy ‘gydweithio yn genedlaethol ac yn fyd-eang'. Mae campws Prifysgol Aberystwyth Mawrisiws yn cynnig enghraifft ardderchog o sut y gallwn alluogi rhai sydd yn gwerthfawrogi ansawdd gradd o’r Deyrnas Gyfunol i astudio mewn canolfan ranbarthol neu sefydliad partner mewn ffordd sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch iddynt. "

Dywedodd Dr David Poyton, Deon Campws Cangen Mawrisiws Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r wythnos hon wedi bod yn garreg filltir bwysig i bawb sy'n gysylltiedig â datblygu campws newydd Aberystwyth yma yn Mawrisiws. Mae ymateb ein carfan gyntaf o fyfyrwyr wedi bod yn ardderchog a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i wneud hyn i gyd yn bosibl. Agorodd Prifysgol Aberystwyth ei drysau am y tro cyntaf ym mis Hydref 1872 ac mae wedi datblygu i fod ganolfan dysgo bwys, sy’n denu myfyrwyr o dros 90 o wledydd ledled y byd. Rydym yn edrych ymlaen at efelychu’r llwyddiant hwn yma yn Mawrisiws.”

AU33015