Prifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg

Yr Athro Athole Marshall o IBERS, a wnaeth arwain y rhaglen fridio ceirch gyda Senova, ac sydd ar y restr fer Gwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg

Yr Athro Athole Marshall o IBERS, a wnaeth arwain y rhaglen fridio ceirch gyda Senova, ac sydd ar y restr fer Gwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg

03 Tachwedd 2015

Mae Prifysgol Aberystwyth ar y rhestr fer am dair gwobr yng Ngwobrau Partneriaethau Busnes ac Addysg 2015 sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Mercher 4 Tachwedd, 2015.

Bellach yn eu hail flwyddyn, mae'r gwobrau yn dathlu cydweithio rhwng cwmnïau, prifysgolion a cholegau.

Enwebwyd Prifysgol Aberystwyth mewn 3 chategori:

• Ymchwil a Datblygu – Aber Instruments mewn cydweithrediad ag IBERS, dan arweiniad Dr Hazel Davey yn IBERS. Mae'r cydweithio wedi datblygu dull unigryw o fonitro bio-màs mewn eplesyddion diwydiannol.

• Effaith Economaidd - Y rhaglen fridio ceirch gyda Senova dan arweiniad yr Athro Athole Marshall yn IBERS. Mae amrywiaethau a ddatblygwyd gan y rhaglen fridio ceirch IBERS yn ceisio cynnwys lefelau uwch o beta glucan na mathau eraill o geirch ac felly yn cynnig manteision iechyd gwell.  Mae 65% o'r holl geirch a ddefnyddir yn y Deyrnas Gyfunol wedi cael eu datblygu yn IBERS.

• Prifysgol y Flwyddyn - Prifysgol Aberystwyth

Dywedodd Dr Rhian Hayward, Rheolwr Datblygu Busnes yn Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth: "Rwy'n falch iawn fod Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith ar y cyd â phartneriaid masnachol. Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o ddatblygu ymchwil ar gyfer defnydd masnachol, a chymhwyso gwybodaeth brifysgol i fynd i'r afael â heriau byd-eang.”

Mae rhestr lawn o'r rhai sydd ar restr fer ar gyfer gwobrau ar gael yma.

AU35515