Diweddariad storm Imogen: 21:00 Nos Lun 8 Chwefror 2016

08 Chwefror 2016

Gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a symudwyd o neuaddau preswyl glan môr oherwydd y tywydd gwael nawr i ddychwelyd i'w neuaddau.

Cafodd tua 350 o fyfyrwyr eu hail-leoli i gampws Penglais ar ddydd Llun 8 Chwefror lle darparwyd bwyd a diodydd poeth yn rhad ac am ddim gan y Brifysgol.

Gall myfyrwyr ddychwelyd heno yn dilyn y gwiriadau diogelwch angenrheidiol.

Meddai Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor Dirprwy Is-Ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredol: "Roeddem wedi gwahodd ein myfyrwyr sy'n byw mewn llety ar lan y môr i gampws Penglais am swper ac rydym yn falch iawn o gyhoeddi eu bod yn gallu dychwelyd i'w llety. Hoffem ddiolch i’n myfyrwyr sydd wedi bod mor amyneddgar.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau staff, y gwasanaethau brys, Cyngor Sir Ceredigion ac Adnoddau Naturiol Cymru, y cwmni bysus a’r gymuned leol sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl fyfyrwyr  yn sych, cysurus a diogel.”

AU4616