Balchder yn ein Hanes: Dathlu a chefnogi ein myfyrwyr LDHT+

Logo Balchder yn ein Hanes

Logo Balchder yn ein Hanes

24 Chwefror 2016

I ddathlu, a chefnogi ein myfyrwyr LDHT+, mae’r Brifysgol yngyd ag AberBalch yn cynnal digwyddiad arbennig, 'Balchder yn ein Hanes' yng Nghanolfan y Celfyddydau ar nos Iau 25 Chwefror.

Mae’r digwyddiad hwn yn nodi diwedd yr ymgyrch 'Balchder yn Ein  Hanes', a redwyd gan y gymdeithas sy'n rhoi myfyrwyr LHDT+ llais.

Mae'r ymgyrch 'Balchder yn Ein Hanes' yn ceisio i ddathlu popeth LHDT+ a thynnu sylw at ffigyrau eiconig o fewn y gymuned.

Bydd yr arian a godir o'r digwyddiad (a gydlynir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni) yn sicrhau bod AberBalch yn gallu cynnal amgylchedd croesawgar yn Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr LDHT+, gan gynnal ymgyrchoedd, digwyddiadau a chynrychiolaeth hyd at lefel genedlaethol.

Dywedodd Louise Jagger, Cyfarwyddwr y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, "Mae'r noson yn addo bod yn fywiog, yn groesawgar ac yn llawn hwyl, yn cynnwys teyrnged arbennig i'r eicon LDHT+, y diweddar David Bowie, ocsiwn o waith a gyflwynir ar gyfer yr ymgyrch a digon o reswm i ddawnsio a dathlu!

“Pan glywais gyntaf y newyddion am farwolaeth David Bowie roeddwn yn teimlo tristwch o'r fath, roedd llawer o bobl yn teimlo'n rhydd trwy ei gerddoriaeth ac rwy'n gwybod faint o eicon oedd ef i'r gymuned LDHT+.

“Rwy'n gobeithio bydd y deyrnged iddo yn Aberystwyth, lle chwaraeodd ddwywaith o'r blaen, yn ysbrydoli cefnogaeth ein staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o bob rhan."

 Gellir cael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ar gael yma: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/music/pride-our-history-balchder-yn-ein-hanes