Myfyrwyr IBERS i gymryd rhan yn ‘University Challenge’ Botanegol cyntaf erioed

Tîm ‘University Challenge’ Botanegol IBERS (chwith i’r dde): Rob Bellow, 3ydd flwyddyn Bioleg Planhigion; Sam Thomas, Myfyriwr PhD; Henry Dewhirst, blwyddyn cyntaf Bioleg Planhigion; Jacques Turner-Moss, 3ydd flwyddyn Cadwraeth.

Tîm ‘University Challenge’ Botanegol IBERS (chwith i’r dde): Rob Bellow, 3ydd flwyddyn Bioleg Planhigion; Sam Thomas, Myfyriwr PhD; Henry Dewhirst, blwyddyn cyntaf Bioleg Planhigion; Jacques Turner-Moss, 3ydd flwyddyn Cadwraeth.

29 Chwefror 2016

Cynhelir yr ‘University Challenge’ Botanegol yng Ngerddi Botaneg Kew ym mis Mawrth. Trefnwyd y digwyddiad gan IBERS a Phrifysgol Reading.                                                

Bydd IBERS yn mynd a thîm cryf o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a bydd pynciau yn cynnwys:  Bwyd, gwenwyn neu gyffuriau ? Beth sydd mewn enw Lladin? Ble yn y Byd? a Thorwyr Record. Bydd rôl Paxman yn cael ei ymgymryd gan y seren deledu ethno-botanegwr James Wong.

Dywedodd Yr Athro John Warren: "Rwy'n hyderus bod gan Brifysgol Aberystwyth siawns da o fod yn bencampwyr yr ‘University Challenge’ Botanegol gyntaf erioed yn y DG. Mae'r ffaith bod gennym dîm mor gryf yn adlewyrchiad o ansawdd y myfyrwyr sydd gennym yn IBERS."                                                                                           

Cynhelir y digwyddiad am 2yp ar Ddydd Iau 10fed o Fawrth 2016 yn narlithfa Jodrell, Gerddi Kew.                                                                                                           

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Fotanwr/wraig ac i ddarganfod mwy am gwrs Bioleg Planhigion IBERS, dilynwch y linc yma.


AU7516